Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1864-1931, cofrestri a llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul, 1838-1914, a gohebiaeth a deunydd perthynol, 1925-1945, Capel Hill's Lane, Amwythig.
CMA: Cofysgrifau Capel Hill's Lane, Amwythig
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 HILLSL
- Alternative Id.(alternative) vtls004285167(alternative) (WlAbNL)0000285167
- Dates of Creation
- 1838-1945
- Name of Creator
- Language of Material
- English Welsh Saesneg, Cymraeg
- Physical Description
- 15 cyfrol, 1 bwndel
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Bu Methodistiaid Calfinaidd Amwythig yn addoli o 1805 ymlaen yn hen gapel y Wesleaid, Hill's Lane, a adeiladwyd yn 1781. Yn 1826 prynwyd y capel ganddynt ac fe'i chwalwyd er mwyn adeiladu capel newydd ar yr un safle. Yn 1870 adeiladwyd capel newydd eto ar yr un safle. Roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf, Dosbarth y trefydd Seisnig.
Bu'r Capel am gyfnod yn hollol Gymreig, ond wedyn cafwyd gwasanaeth cymysg o Gymraeg a Saesneg. O 1886 ymlaen, cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn y bore a gwasanaeth Saesneg yn yr hwyr. Caewyd y capel yn 1931 oherwydd gorchymyn pwrcasu gorfodol ac ymunodd yr aelodau â'r Eglwys Saesneg yn St David's, Belmont, yn y flwyddyn honno.
Arrangement
Trefnwyd yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion yr Ysgol Sul; ac yn ddwy ffeil.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan Mr R. M. Edwards, Croesoswallt, Rhagfyr 2002.; 0200301499
Note
Bu Methodistiaid Calfinaidd Amwythig yn addoli o 1805 ymlaen yn hen gapel y Wesleaid, Hill's Lane, a adeiladwyd yn 1781. Yn 1826 prynwyd y capel ganddynt ac fe'i chwalwyd er mwyn adeiladu capel newydd ar yr un safle. Yn 1870 adeiladwyd capel newydd eto ar yr un safle. Roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf, Dosbarth y trefydd Seisnig.
Bu'r Capel am gyfnod yn hollol Gymreig, ond wedyn cafwyd gwasanaeth cymysg o Gymraeg a Saesneg. O 1886 ymlaen, cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn y bore a gwasanaeth Saesneg yn yr hwyr. Caewyd y capel yn 1931 oherwydd gorchymyn pwrcasu gorfodol ac ymunodd yr aelodau â'r Eglwys Saesneg yn St David's, Belmont, yn y flwyddyn honno.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Archivist's Note
Awst 2003
Lluniwyd gan Nia Mai Wiliams.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog hwn: Griffith, Edward, Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf, Caernarfon, 1914; Presbyterian Church of Wales, Hill's Lane, Shrewsbury, Report for 1907.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau
Additional Information
Published