Cofnodion gweithgor golygyddol yr Atlas Cymraeg, gan gynnwys drafftiau o destun yr Atlas wedi eu golygu, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau a gohebiaeth.
Cofnodion yr Atlas Cymraeg
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 ATLASCYM
- Alternative Id.(alternative) vtls004323539(alternative) (WlAbNL)0000323539
- Dates of Creation
- 1979-1984
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg a Saesneg.
- Physical Description
- 0.019 metr ciwbig (2 focs).
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Cyhoeddwyd yr Atlas Cymraeg ym 1987 o dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, yn addasiad Cymraeg o Philips' Certificate Atlas for Secondary Schools (1979). Bwriad y prosiect oedd i gynhyrchu atlas safonol a chynhwysfawr yn y Gymraeg, ac hefyd i gynrychioli enwau lleoedd tramor yn eu priod ieithoedd lle nad oedd ffurf Gymraeg i gael, yn ymwybodol o ddylanwad grymus yr iaith Saesneg. Dechreuwyd y gwaith ym 1979, pan sefydlwyd Panel Atlas i oruchwylio'r prosiect, gydag Is-Banel a Gweithgor i wneud y gwaith manwl. Rhannwyd y gwaith fesul tudalen fel arfer, a gwnaethpwyd nifer fawr o ddrafftiau o'r testun wrth i'r testun gael ei olygu gyda chrib mân. Cadeirydd y Panel a Golygydd yr Atlas oedd Dafydd Orwig, a chwmni George Philip a'i Fab, Llundain, oedd yr argraffwyr.
Arrangement
Trefnwyd yn 10 ffeil, yn dilyn trefn wreiddiol gweithgor golygyddol yr Atlas Cymraeg.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mr Alun Treharne; Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, Caerdydd; Rhodd; Mawrth 2004.0200402989
Note
Cyhoeddwyd yr Atlas Cymraeg ym 1987 o dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, yn addasiad Cymraeg o Philips' Certificate Atlas for Secondary Schools (1979). Bwriad y prosiect oedd i gynhyrchu atlas safonol a chynhwysfawr yn y Gymraeg, ac hefyd i gynrychioli enwau lleoedd tramor yn eu priod ieithoedd lle nad oedd ffurf Gymraeg i gael, yn ymwybodol o ddylanwad grymus yr iaith Saesneg. Dechreuwyd y gwaith ym 1979, pan sefydlwyd Panel Atlas i oruchwylio'r prosiect, gydag Is-Banel a Gweithgor i wneud y gwaith manwl. Rhannwyd y gwaith fesul tudalen fel arfer, a gwnaethpwyd nifer fawr o ddrafftiau o'r testun wrth i'r testun gael ei olygu gyda chrib mân. Cadeirydd y Panel a Golygydd yr Atlas oedd Dafydd Orwig, a chwmni George Philip a'i Fab, Llundain, oedd yr argraffwyr.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's Note
Ebrill 2015.
Lluniwyd y disgrifiad hwn gan David Moore. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth baratoi'r disgrifiad: Yr atlas Cymraeg, gol. Dafydd Orwig (George Philip a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru : Caerdydd, 1987); papurau o fewn yr archif;
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Custodial History
Crynhowyd y papurau gan y gweithgor golygyddol.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Bibliography
Yr atlas Cymraeg (Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru : Caerdydd, 1987)
Additional Information
Published