CMA: Cofysgrifau Capel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 GORPEN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004242197
      (alternative) (WlAbNL)0000242197
  • Dates of Creation
    • 1878-1986
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg
  • Physical Description
    • 0.067 metrau ciwbig (15 cyfrol ac 1 ffolder)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion Capel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth, gan gynnwys llyfr cyfrifon y Gymdeithas Ariannol, 1878-1907, llyfrau cyfrifon, 1878-1986, a llyfr y trysorydd, 1888-1952. Ceir llyfr cofnodion eglwysig, 1909-1986, a llyfr cofnodion pwyllgor yr adeiladau, 1929-1951, ymhlith y cofnodion gweinyddol, ynghyd â chofrestr yr Ysgol Sul, 1885-1886, a phapurau'n ymwneud â threfnu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 12-15 Mehefin 1978, yn y capel.
Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel yn cynnwys adroddiadau'r eglwys; llyfr bedyddiadau; llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1964-1988; tocynnau aelodaeth; tri llyfr cofnodion, 1952-2010; adroddiadau ar yr adeiladau, 2002 a 2006; manylion ewyllys Mr Thomas Charles Jones, 1992; cofnodion Pwyllgor yr Adeiladau, 1975-2002; cofnodion cyfarfodydd swyddogion, 1987-2003; gohebiaeth amrywiol; a manylion rhoddion cyfamod. Nid yw'r ychwanegiad hwn wedi ei catalogio eto.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd y capel yn 1880. Yr oedd dau gapel, Nasareth a'r Pant, ym Mhenrhyndeudraeth eisoes ond oherwydd twf yn y boblogaeth, yn enwedig yng ngwaelod y pentref, rhwng 1870 a 1880 gwelwyd yr angen am drydydd capel. Penderfynwyd adeiladu'r capel newydd ar dir Adwy-ddu a roddwyd gan Mrs A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw David Williams, AS, am brydles o 999 mlynedd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan A. Osmond Williams, Castelldeudraeth. Cafwyd lle i eistedd pum cant, ynghyd ag ystafell ddosbarth a festri.
Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Meirionnydd.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol ac yn ddwy ffeil: Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Penrhyndeudraeth 1978 a chofrestr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd ffeil /1 gan Mr Alun Williams, Dolgellau, ym mis Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Adneuwyd y gweddill gan y Parch. Adrian P. Williams, Blaenau Ffestiniog, ym mis Ionawr 2003. Daeth ychwanegiad gan Mr Geraint Lloyd Jones, Ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd, Hydref 2010.; 0200300902

Note

Sefydlwyd y capel yn 1880. Yr oedd dau gapel, Nasareth a'r Pant, ym Mhenrhyndeudraeth eisoes ond oherwydd twf yn y boblogaeth, yn enwedig yng ngwaelod y pentref, rhwng 1870 a 1880 gwelwyd yr angen am drydydd capel. Penderfynwyd adeiladu'r capel newydd ar dir Adwy-ddu a roddwyd gan Mrs A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw David Williams, AS, am brydles o 999 mlynedd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan A. Osmond Williams, Castelldeudraeth. Cafwyd lle i eistedd pum cant, ynghyd ag ystafell ddosbarth a festri.
Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Meirionnydd.

Datgorfforwyd yr eglwys 20 Mehefin 2010.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2002 ac Ebrill 2003.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III (Dolgellau, 1928) ac Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II (Dolgellau, 1891).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir y deunydd canlynol yn LlGC: llyfr cofnodion Ysgol Sul y Capel ('Llyfr Cyfrif a Llafur'), 1887-1888 (CMA EZI/188); hanes Mari Jones yn cerdded i'r Bala gan Lizzie Rowlands, wedi'i ysgrifennu ar gyfer plant Capel Gorffwysfa, 1904 (CMA 26601); cerdyn aelodaeth Ysgol Sul Robert R. Lloyd, 10 Ebrill 1882 (CMA 9530); traethawd ar ddysgeidiaeth y bregeth ar y Mynydd, Cyfarfod Llenyddol yng Nghapel Gorffwysfa, 16 Tachwedd 1907 (Papurau Bob Owen, Croesor, 17/1/1); a lluniau yng nghasgliad Mortimer (PG 4432), ynghyd â chynlluniau (PG 4455). Mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1967-1968, ar gael yn LlGC. Cedwir deunydd yn ymwneud â chymdeithasau yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.

Additional Information

Published