Papurau Cofeb Genedlaethol R. Williams Parry,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 COFRRY
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844802
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1939-1980 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.018 metrau ciwbig (2 focs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Llythyrau cyffredinol a anfonwyd at Miss Blodwen Hughes, 1939-1960, gyda R. Williams Parry ymhlith y gohebwyr,1950; llythyrau at Blodwen Hughes yn ymwneud â gweinyddu'r Gronfa Goffa, 1960-1977; llythyrau,1965-1977, oddi wrth Fanc Lloyds; cofnodion a phapurau eraill yn ymwneud â'r Pwyllgor Coffa, 1959-1977, a'r Gronfa Goffa,1960-1965; cyfrifon a chofnodion cyllidol eraill,1960-1980; rhestr tanysgrifwyr, 1960-1980; a thorion papur newydd = General letters to Miss Blodwen Hughes, 1939-1960, the correspondents including R. Williams Parry, 1950; letters to Blodwen Hughes relating to the administration of the Memorial Fund, 1960-1977; letters, 1965-1977, from Lloyds Bank; minutes and other papers relating to the Memorial Committee, 1959-1977, and the Memorial Fund, 1960-1965; accounts and other financial records, 1960-1980; lists of subscribers, 1960-1980; and newspaper cuttings.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd Pwyllgor Cofeb R. Williams Parry er mwyn codi arian i goffáu Robert Williams Parry (1884-1956) y bardd a darlithydd prifysgol. Lansiwyd apêl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill 1961. Miss Blodwen Hughes o Benygroes, sir Gaernarfon, oedd cyd-ysgrifennydd y Pwyllgor.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: llythyrau, a phapurau eraill.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mr William John Lewis; Gaerwen, sir Fôn; Rhodd; 1994

Note

Sefydlwyd Pwyllgor Cofeb R. Williams Parry er mwyn codi arian i goffáu Robert Williams Parry (1884-1956) y bardd a darlithydd prifysgol. Lansiwyd apêl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill 1961. Miss Blodwen Hughes o Benygroes, sir Gaernarfon, oedd cyd-ysgrifennydd y Pwyllgor.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai o bapurau personol Miss Blodwen Hughes yn rhagddyddio y Pwyllgor.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1995, t. 45, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect AWN. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Man Restri a Chrynodebau 1995; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970(Llundain, 2001); gwefan Comisiwn yr Elusennau (http://www.charity-commission.gov.uk), edrychwyd 15 Medi 2003;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Custodial History

Crynhowyd y papurau yn wreiddiol gan Miss Blodwen Hughes, cyd-ysgrifennydd y Pwyllgor.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published