Papurau’r nofelydd a’r hanesydd lleol Nansi Selwood, [1934]-2017, yn cynnwys gohebiaeth, drafftiau o'i nofelau Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam a Y rhod yn troi, erthyglau a sgriptiau radio. = Papers of the novelist and local historian Nansi Selwood, [1934]-2017, comprising correspondence, drafts of her novels Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam and Y rhod yn troi, articles and radio scripts.
Papurau Nansi Selwood
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NANWOOD
- Alternative Id.(alternative) 99817742002419
- Dates of Creation
- [1934]-2017
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English
- Physical Description
- 0.065 metrau ciwbig (5 bocs)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yr oedd Nansi Selwood yn athrawes, ffermwraig, hanesydd lleol ac awdures nifer o nofelau hanesyddol. Fe’i ganwyd yn Annie Roderick Williams ar 8 Tachwedd 1921 yn Fferm Trebannog Isa, Penderyn, Rhigos, ac wedyn symudodd y teulu i Hirwaun. Bu’n astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n athrawes Gymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd, a Phwllheli. Priododd Jack Selwood yn 1948. Cyfieithiwyd ei nofel Brychan dir (1987) i’r Saesneg gan ei gŵr Jack, The land of Brychan, yn 1994, a’r nofel i blant Dan Faner Dafydd Gam (1991) ganddo i Beneath the banner of Dafydd Gam (1992). Dyfarnwyd iddi Wobr Griffith John Williams 1987 am ei nofel Brychan dir. Lluniodd gyfrol am hanes Cwm Cynon sef A history of the villages of Hirwaun and Rhigos yn 1997. Dysgodd ddarllen braille yn ei hwythdegau. Bu Nansi Selwood farw ar 18 Chwefror 2017 mewn cartref gofal yn Nhrecynon, Aberdâr.
Arrangement
Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: papurau llenyddol a phapurau personol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Ms Rhian Selwood; Caerffili; Rhodd; Rhagfyr 2017; e 99817742002419.
Note
Yr oedd Nansi Selwood yn athrawes, ffermwraig, hanesydd lleol ac awdures nifer o nofelau hanesyddol. Fe’i ganwyd yn Annie Roderick Williams ar 8 Tachwedd 1921 yn Fferm Trebannog Isa, Penderyn, Rhigos, ac wedyn symudodd y teulu i Hirwaun. Bu’n astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n athrawes Gymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd, a Phwllheli. Priododd Jack Selwood yn 1948. Cyfieithiwyd ei nofel Brychan dir (1987) i’r Saesneg gan ei gŵr Jack, The land of Brychan, yn 1994, a’r nofel i blant Dan Faner Dafydd Gam (1991) ganddo i Beneath the banner of Dafydd Gam (1992). Dyfarnwyd iddi Wobr Griffith John Williams 1987 am ei nofel Brychan dir. Lluniodd gyfrol am hanes Cwm Cynon sef A history of the villages of Hirwaun and Rhigos yn 1997. Dysgodd ddarllen braille yn ei hwythdegau. Bu Nansi Selwood farw ar 18 Chwefror 2017 mewn cartref gofal yn Nhrecynon, Aberdâr.
Archivist's Note
Rhagfyr 2018
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Dychwelwyd papurau'n ymwneud â hanes lleol, papurau teuluol ac eitemau printiedig i'r teulu.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published