CMA: Cofysgrifau Capel Borth-y-Gest

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BORTHG
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004249354
      (alternative) (WlAbNL)0000249354
  • Dates of Creation
    • 1905-1929
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg.
  • Physical Description
    • 1 gyfrol
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr Casgliad y Weinidogaeth, Capel Ebeneser, Borth-y-Gest, 1905-1929.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr achos yng nghapel Ebeneser (a elwir hefyd yn gapel Borth), yn Borth-y-Gest, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon yn 1881. Cyn hyn cynhaliwyd Ysgol Sul a chyfarfod gweddi mewn adeilad a alwyd yn 'Llofft y Sied'. Yn 1874 adeiladwyd capel yng ngwaelod Mary St. a dechreuwyd addoli yno ym mis Hydref. Gan fod yr achos mor llewyrchus, adeiladwyd capel mwy o faint yn 1880 a gostiodd fil o bunnoedd. Galwyd y Parch. Griffith Parry yn fugail yno yn 1889, ac ef a fu'n weinidog yno tan ei farwolaeth yn 1937. Unwyd dwy eglwys y Borth a Morfa Bychan yn un ofalaeth yn 1893. Mae Capel Borth-y-Gest yn Nosbarth Tremadog, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr John Rees Jones, Porthmadog, Mai 2002.; 0200207747

Note

Sefydlwyd yr achos yng nghapel Ebeneser (a elwir hefyd yn gapel Borth), yn Borth-y-Gest, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon yn 1881. Cyn hyn cynhaliwyd Ysgol Sul a chyfarfod gweddi mewn adeilad a alwyd yn 'Llofft y Sied'. Yn 1874 adeiladwyd capel yng ngwaelod Mary St. a dechreuwyd addoli yno ym mis Hydref. Gan fod yr achos mor llewyrchus, adeiladwyd capel mwy o faint yn 1880 a gostiodd fil o bunnoedd. Galwyd y Parch. Griffith Parry yn fugail yno yn 1889, ac ef a fu'n weinidog yno tan ei farwolaeth yn 1937. Unwyd dwy eglwys y Borth a Morfa Bychan yn un ofalaeth yn 1893. Mae Capel Borth-y-Gest yn Nosbarth Tremadog, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Rhagfyr 2002

Lluniwyd gan Nia Mai Williams.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cronfa ddata CAPELI yn LlGC; Davies, Evan R., Hanes yr Achos yn Ebeneser, Borthygest, 1874-1974 (Caernarfon, 1974) yn CMA EZ3/187; Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, 2001.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1894-1972 (gyda bylchau) ar gael yn LlGC, ac yn CMA III/EZ2/30, 1920-1966 (gyda bylchau). Ceir hanes canmlwyddiant y capel yn CMA EZ3/187, a sefydlu pregethwyr yn CMA III/HZ2/J. Yn CMA III/EZ1/414/1-34 ceir cofrestri, cofnodion, cyfrifon a chofysgrifau eraill, 1873-1981, yn ymwneud â'r Capel a'r Ysgol Sul. -- Ceir gweithredoedd, 1872, yn Adran y Llawysgrifau, Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor, a deunydd arall yn Archifdy Caernarfon.

Additional Information

Published