Papurau'r Parch. E. J. Williams,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 EJIAMS
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844639
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • [1906]-[1952] /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.117 metrau ciwbig (13 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau'r Parch. E. J. Williams a'i wraig Lizzie Eirlys Williams, [1906]-[1952], yn cynnwys gohebiaeth oddi wrth garcharorion rhyfel yn Solfach, sir Benfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd; traethawd MA Lizzie Eirlys Evans [Williams] yn ymwneud â'r cysylltiad rhwng Diwygiadau Crefyddol 1730-1859 a llenyddiaeth y cyfnod,[1934]; a phapurau eraill yn gysylltiedig â gwaith enwad y Bedyddwyr yng Nghymru a mannau eraill = Papers of the Rev. E. J. Williams and his wife Lizzie Eirlys Williams, [1906]-[1952], including correspondence from prisoners of war during the Second World War in the Solva, Pembrokeshire; MA thesis by Lizzie Eirlys Evans [Williams] relating to the connection between the Religious Revivals 1730-1850 and the literature of the period, [1934]; and other papers connected with the work of the Baptist denomination in Wales and elsewhere.

Administrative / Biographical History

Ganwyd y Parch. Evan John Williams (marw 1993) yn Swyddffynnon, Ceredigion. Cafodd ei ordeinio yn Noddfa, Ynysybwl, yn 1929 a symudodd i Tabernacl, Maesteg, yn 1937. Gweithiodd ar ran y Gymdeithas Genhadol yn Llundain am chwe blynedd. Yn 1973 cafodd ei ordeinio yn Horeb Penrhyn-coch, Cwmsymlog a Goginan. Yr oedd ei wraig L. Eirlys Williams yn ferch i'r Parch. Henry Evans, Horeb, Penrhyn-coch. Gweithiodd hi i Undeb y Bedyddwyr am dros ddeugain mlynedd.

Arrangement

Trefnwyd yn dri bocs ar ddeg.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Parch. Evan John Williams a Mrs Gwen Davies,; Tre'rddôl,; Rhodd,; 1987 a 1988

Note

Ganwyd y Parch. Evan John Williams (marw 1993) yn Swyddffynnon, Ceredigion. Cafodd ei ordeinio yn Noddfa, Ynysybwl, yn 1929 a symudodd i Tabernacl, Maesteg, yn 1937. Gweithiodd ar ran y Gymdeithas Genhadol yn Llundain am chwe blynedd. Yn 1973 cafodd ei ordeinio yn Horeb Penrhyn-coch, Cwmsymlog a Goginan. Yr oedd ei wraig L. Eirlys Williams yn ferch i'r Parch. Henry Evans, Horeb, Penrhyn-coch. Gweithiodd hi i Undeb y Bedyddwyr am dros ddeugain mlynedd.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1989, tt. 99-100, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1989; a Dyddiadur a llawlyfr y Bedyddwyr, 1994.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir papurau pellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau L. Eirlys Williams.

Additional Information

Published