LLYTHYR oddiwrth William Closs RWF 158 Infantry Brigade, 53 Welsh Division, Mediterranean Expeditionary Force (HM Forces in Egypt) at ei annwyl frawd yn nodi ei fod wedi derbyn ei lythyr caredig yn saff a'i bod yn dda ganddo glywed eu bod yn iach i gyd fel ag y mae yntau yn yr anialwch yma. Roedd wedi dychryn i glywed am William Edward gan nad oedd wedi clywed o'r blaen. Mae'n gofyn iddo ddweud wrth Jane ei wraig fod yn ddrwg iawn ganddo. Mae'n son fod yntau wedi bod mewn llawer i storm ar ol dyfod o'r hen wlad tasa dim ond dod o Sulva Bay Gallipoli o ganol y shells mawr, wnaiff o ddim ei anghofio nhw byth. Mae'n diolch i Dduw am gael dod oddi yno yn fyw ac yn iach. Mae'n dweud wrth ei frawd ei bod yn dipyn gwell yma yn yr Aifft ond does fawr ddim i'w weld ar wahan i dywod am dair mil o filltiroedd a rhyw dipyn o Arabs. Mae'n nodi ei bod hi'n boeth ofnadwy yma a nad oes ganddo ddim lot amdano ar wahan i'w grys. Mae'n codi am bump bob dydd ac wrthi tan unarddeg, nid ydyw yn gwneud rhyw lawer ar wahan i edrych ar ol y lines. Does neb yn gwneud dim yma yn y pnawn gan ei bod yn rhy boeth. Mae'n gobeithio y caiff ddod gartref yn fyw ac yn iach eto i'r Nant gan nad oes "no place like home". Mae'n cofio at ei frawd Guto yr hen soldiwr ac yn gofyn i'w frawd anfon gair bach yn ol yn o fuan ato gan lofnodi ei hun fel Wil Anialwch

This material is held atGwynedd Archives Service - Caernarfon Record Office / Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Archifdy Caernarfon

  • Reference
    • GB 219 XM13003/3
  • Dates of Creation
    • c.1916 March 22

Access Information

Open