CMA: Cofysgrifau Capel Adwy'r Clawdd, Coedpoeth

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 ADCLAWDD
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004308791
      (alternative) (WlAbNL)0000308791
  • Dates of Creation
    • 1905-1987
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (1 bocs); 2 amlen (Mehefin 2006 ac Ebrill 2008); 1 gyfrol (Gorffennaf 2010).
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Llyfr cyfrifon o gyfraniadau aelodau capel Adwy'r Clawdd, Coedpoeth, 1905-1987, a chyfrol yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd dosbarth Adwy'r Clawdd, 1933-1942.
Papurau ychwanegol yn perthyn i'r capel gan gynnwys cofnodion yr eglwys, 1904-1972, a penillion croeso i'r milwyr yn dychwelyd o'r Ail Ryfel Byd, a nodiadau. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Llyfr cofnodion, gan gynnwys cyfrifon yn perthyn i achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Adwy'r Clawdd, 1881-1899.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr eglwys yn 1747 a chredir fod capel wedi ei adeiladu yn Adwy'r Clawdd erbyn 1750. Cafwyd estyniad i'r capel yn 1862 ond aeth y capel yma ar dân yn 1884 a bu raid adeiladu capel newydd. Agorwyd hwnnw yn Awst 1885. Yn 1934 ymunodd eglwys Adwy'r Clawdd gyda Bethel a'r Nant dan un ofalaeth, a ffurfiwyd pwyllgor bugeiliol.

Arrangement

Trefnwyd yn ddwy ffeil: llyfr cyfrifon a llyfr cofnodion.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd ar ran y capel gan Mr Gareth Vaughan Williams, Wrecsam, Tachwedd 2003, Mehefin 2006 ac Ebrill 2008. Adneuwyd dogfen ychwanegol gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Medi 2005.; 0200312673, 0200512794

Note

Sefydlwyd yr eglwys yn 1747 a chredir fod capel wedi ei adeiladu yn Adwy'r Clawdd erbyn 1750. Cafwyd estyniad i'r capel yn 1862 ond aeth y capel yma ar dân yn 1884 a bu raid adeiladu capel newydd. Agorwyd hwnnw yn Awst 1885. Yn 1934 ymunodd eglwys Adwy'r Clawdd gyda Bethel a'r Nant dan un ofalaeth, a ffurfiwyd pwyllgor bugeiliol.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Medi 2005

Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Hanes y Methodistiaid Calfinaidd yn Adwy'r Clawdd (1747-1947) gan Huw Llewelyn Williams.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir papurau ychwanegol yn ymwneud â Chapel Adwy'r Clawdd, Coedpoeth yn NLW: CMA 8952; CMA 13148 (Cofrestr Sir Fflint 1805-1836); CMA 13282; CMA E9/1-9; CMA EZ1/219/1-5; CMA H81/12/1; CMA H81/14; CMA K1/4; CMA NZ/8; CMA L1-L4, L6; NLW 897C (les); ac yn yr Archifdy Cenedlaethol, Llundain: RG 4/3863 (cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1810-1837) (ceir meicroffilm yn LLGC, NPR Rîl 18/3863). Mae ffotograff o'r Pwyllgor Bugeiliol Eglwysi MC Adwy'r Clawdd, Bethel a'r Nant yn 4609623.

Additional Information

Published