Papurau teulu Owens, 1859 - [1980au], yn cynnwys llythyrau Owen, Hugh a Richard Owens a'i teuluoedd at eu rhieni a'u brawd yn Llanfairpwllgwyngyll, 1878 - 1935, a theipysgrif, copïau o lythyrau (1881 - 1891), rhai wedi eu cyfieithu, [1980au]; a llythyrau, lluniau a barddoniaeth yn gysylltiedig â John Owen, 1881 - 1930.
Papurau Owens, Tanymynydd, Llanfair Pwllgwyngyll
This material is held atArchifau Ynys Môn / Anglesey Archives
- Reference
- GB 221 WDAAJ
- Dates of Creation
- 1859 - [1985]
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg English
- Physical Description
- 0.014 cubic metres (106 items)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Roedd gan Hugh Owens (1828 - [1886 - 1889]) a Mary Owens o Tanymynydd, ac yn hwyrach Garnedd Wen bump o feibion. Roedd Dafydd yn chwarelwr ym Methesda, Sir Gaernarfon. Roedd Hugh (a fu farw [c. 1931]) a Richard (Dick) (a fu farw 1935) yn gweithio yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Sir Feirionnydd, cyn ymfudo i Vermont, America yn 1882. Roedd Owen, y mab hynaf, hefyd yn gweithio yn Nhanygrisiau, ymfudodd i Awstralia yn 1879 lle bu farw mewn damwain yng nghloddfa aur Waroonga ger Lawlers, Victoria yn 1907. Aeth y mab ieuengaf, John Owen i'r Coleg Normal ym Mangor i fod yn athro, a daeth yn brifathro yn Llanfairpwllgwyngyll. Roedd hefyd yn fardd. Priododd a Lydia, merch Syr John Morris Jones, a chawsant bedwar o blant.
Arrangement
Wedi eu trefnu fel a ganlyn: Llythyrau gan Owen, Hugh a Richard Owens I'w rhieni; Llythyrau, lluniau a gwaith barddoni yn gysylltiedig a John Owen; a amrywiol
Access Information
Dim cyfyngiadau/ No Restrictions
Acquisition Information
Adnau preifat / Private deposit., 1987.
Note
Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)
Other Finding Aids
Mae copiau clawr caled o`r catalogau ar gael yn Archifau Ynys Môn ac yn y Gofrestr Cenedlaethol Archifau. Polisi Archifau Ynys Môn yw catalogio yn iaith y ddogfen./Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.
Physical Characteristics and/or Technical Requirements
Cyflwr da /Good condition
Archivist's Note
Lluniwyd gan Rhys Jones ar gyfer prosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonell ganlynol ar gyfer llunio'r disgrifiad: Papurau Owens Tanymynydd, Archifau Ynys Môn
Appraisal Information
Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.
Accruals
Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected