CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloh, Rhydymain,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 SILRHY
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls006167299
  • Dates of Creation
    • 1972-2004 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 1 bocs; 0.009 metrau ciwbig.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Siloh, Bryncoedifor, Rhydymain, Meirionnydd, gan gynnwys llyfr cyfrifon, 1972-1984; a llyfr cofnodion cyfarfodydd, 1972-2004, sydd hefyd yn cynnwys manylion am fedyddiadau a llyfryn hanes yr achos, 1874-1974.

Administrative / Biographical History

Cyn adeiladu capel yn Rhydymain, roedd Methodistiaid yr ardal yn teithio i Gapel Carmel, [Bont Newydd], i addoli. Oherwydd i Gapel Carmel fynd yn rhy llawn penderfynwyd sefydlu eglwys yn Rhydymain. I ddechrau cafodd ei gynnal mewn ffermdy o'r enw Dirlwyn, yna symudodd i ffermdy o'r enw Carleg. Ymhen ychydig flynyddoedd penderfynwyd adeiladu capel iawn ac agorwyd Capel Pantypanel yn 1841, ar dir tyddyn o'r enw Pantypanel. Yn 1868 prynwyd darn ychwanegol o dir er mwyn ychwanegu at y capel a chael mynwent. Codwyd capel arall a agorodd yn 1874, a rhoddwyd yr enw Siloh arno.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy ffeil: llyfr cyfrifon a llyfr cofnodion.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Y Parch. J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Medi 2005; 0200512792.

Note

Cyn adeiladu capel yn Rhydymain, roedd Methodistiaid yr ardal yn teithio i Gapel Carmel, [Bont Newydd], i addoli. Oherwydd i Gapel Carmel fynd yn rhy llawn penderfynwyd sefydlu eglwys yn Rhydymain. I ddechrau cafodd ei gynnal mewn ffermdy o'r enw Dirlwyn, yna symudodd i ffermdy o'r enw Carleg. Ymhen ychydig flynyddoedd penderfynwyd adeiladu capel iawn ac agorwyd Capel Pantypanel yn 1841, ar dir tyddyn o'r enw Pantypanel. Yn 1868 prynwyd darn ychwanegol o dir er mwyn ychwanegu at y capel a chael mynwent. Codwyd capel arall a agorodd yn 1874, a rhoddwyd yr enw Siloh arno.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Archivist's Note

Hydref 2011.

Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Eglwys Bresbyteraidd Cymru Siloh, Rhydymain: Hanes yr Achos ar Ddathlu Canmlwyddiant 1874-1974;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published