CMA: Cofysgrifau Capel y Ton, Tonyrefail,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 TONAIL
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004402996
      (alternative) (WlAbNL)0000402996
  • Dates of Creation
    • 1852-2002 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 1 bocs (0.029 metrau ciwbig)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofysgrifau Capel y Ton, Tonyrefail, yn cynnwys cofnodion y Blaenoriaid, 1940-1981; derbyniadau a thaliadau, 1933-2002; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1958-2002; a rhestr o enwau perchnogion y beddau, 1852-1980.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd y Capel cyntaf tua 1793. Erbyn 1836 roedd yr adeilad wedi dechrau adfeilio ac o ganlyniad fe godwyd yr ail Gapel yn y flwyddyn honno. Yn 1843, prynwyd darn o dir yn ymyl y Capel i godi Tŷ Capel, ac yn 1857 fe adeiladwyd Tŷ Ysgol. Fe agorwyd y Capel presennol, sef y trydydd adeilad, ym mis Medi 1864. Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2008.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bedair cyfres: cofnodion y Blaenoriaid; derbyniadau a thaliadau; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, a rhestr o enwau perchnogion y beddau.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurio â'r amodau a nodir ar y ffurflen `Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Y Parch. J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Medi 2005; 0200512699.

Note

Adeiladwyd y Capel cyntaf tua 1793. Erbyn 1836 roedd yr adeilad wedi dechrau adfeilio ac o ganlyniad fe godwyd yr ail Gapel yn y flwyddyn honno. Yn 1843, prynwyd darn o dir yn ymyl y Capel i godi Tŷ Capel, ac yn 1857 fe adeiladwyd Tŷ Ysgol. Fe agorwyd y Capel presennol, sef y trydydd adeilad, ym mis Medi 1864. Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2008.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Archivist's Note

Medi 2008.

Lluniwyd y disgrifiad gan Teresa Cody. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cronfa ddata Capeli LlGC; LlGC CMA 26,484, CMA EZ3/113; Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2008.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir adroddiadau blynyddol Capel y Ton, Tonyrefail, 1890-1967 (gyda blychau), yn LlGC, a hanes y Capel yn LlGC, CMA 26,484 ac CMA EZ3/113.

Additional Information

Published