Elwyn Roberts Papers,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 ELWERTS
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844634
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1843-1988 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.184 metrau ciwbig (16 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau a grynhowyd gan Elwyn Roberts, yn cynnwys papurau personol a theuluol, 1898-1988; papurau a grynhowyd gan Elwyn Roberts ar hanes lleol ym mhlwyfi Abergynolwyn a Llanfihangel-y-Pennant; papurau cyffredinol, 1936-1987, yn cynnwys torion o'r wasg, 1963-1976, yn ymwneud â Phlaid Cymru, a grwp o lythyrau Kate Roberts at Elwyn Roberts, 1969-1975; amrywiol bethau, 1843-1979; a phapurau, 1952-1974, yn ymwneud ag Ymgyrch Senedd i Gymru, yn cynnwys cofnodion pwyllgorau, gohebiaeth, papurau ariannol, atgofion Elwyn Roberts am yr ymgyrch, torion o'r wasg a deunydd printiedig. = Papers accumulated by Elwyn Roberts, comprising personal and family papers, 1898-1988; papers accumulated by Elwyn Roberts on local history in the parishes of Abergynolwyn and Llanfihangel-y-Pennant; general papers, 1936-1987, including press cuttings, 1963-1976, relating to Plaid Cymru, and a group of letters, 1969-1975, from Kate Roberts to Elwyn Roberts; miscellanea, 1843-1979; and papers, 1952-1974, relating to the Parliament for Wales Campaign, comprising committee minutes, correspondence, financial papers, Elwyn Roberts's reminiscences of the campaign, press cuttings and printed material.

Administrative / Biographical History

Elwyn Roberts, (1904-1988) o Beniarth, Bodorgan, sir Fôn, oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru hyd ei ymddeoliad, a pharhaodd yn drysorydd anrhydeddus. Roedd yn Drefnydd ymgyrch Senedd i Gymru rhwng 1953 a 1956. Daeth yn ysgrifennydd-trefnydd Eisteddfodau Bae Colwyn yn 1947 a Llanrwst yn 1951. Ef oedd trefnydd Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru, a hefyd ei swyddog ariannol. Roberts hefyd a sefydlodd cangen fwyaf Plaid Cymru, ym Mlaenau Ffestiniog.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau personol a theuluol; hanes lleol; papurau cyffredinol; amrywiol bethau; ac Ymgyrch Senedd i Gymru.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Gwyneth Roberts,; Tywyn, Gwynedd,; Rhodd,; 1989

Note

Elwyn Roberts, (1904-1988) o Beniarth, Bodorgan, sir Fôn, oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru hyd ei ymddeoliad, a pharhaodd yn drysorydd anrhydeddus. Roedd yn Drefnydd ymgyrch Senedd i Gymru rhwng 1953 a 1956. Daeth yn ysgrifennydd-trefnydd Eisteddfodau Bae Colwyn yn 1947 a Llanrwst yn 1951. Ef oedd trefnydd Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru, a hefyd ei swyddog ariannol. Roberts hefyd a sefydlodd cangen fwyaf Plaid Cymru, ym Mlaenau Ffestiniog.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Trosglwyddwyd grŵp sylweddol o bapurau Plaid Cymru oedd ym meddiant Elwyn Roberts yn dilyn cau swyddfa Plaid Cymru ym Mangor o bapurau Elwyn Roberts a'u gosod gydag Archif Plaid Cymru yn LlGC. Crëwyd sawl eitem cyn genedigaeth Elwyn Roberts.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog ym Mân Restri a Chrynodebau 1989, tt. 82-85, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceirl mynediad i'r catalog ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1989; Davies, John, A History of Wales (Caerdydd, 1993; gohebiaeth bersonol â Miss Nans Jones, Caerdydd, 1993;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Custodial History

Adneuwyd rhai papurau yn ymwneud â Plaid Cymru yn dilyn cau Swyddfa Plaid Cymru ym Mangor.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir papurau pellach yn Archifdy Môn, Papurau Elwyn Roberts.

Additional Information

Published