Papurau Plaid Cymru: Rhanbarth Ceredigion,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 PLAION
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844603
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1939-1985 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.108 metrau ciwbig (12 bocs); 1 amlen (Awst 2006) ; 1 ffolder (Chwefror 2008)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Pwyllgor Rhanbarth Ceredigion o Blaid Cymru, yn cynnwys cofnodion,1939-1984; gohebiaeth,1944-1981; papurau'n ymwneud â gwaith a chyllid y Pwyllgor a'i ganghennau,1959-1971; papurau'r Gynhadledd Flynyddol,1976-1979; torion papur newydd,1970-1975; ymgyrchoedd, 1960-1965; adroddiadau misol Peter Hughes Griffiths, Trefnydd y pwyllgor rhanbarth,1970-1972; papurau Adran Merched Plaid Cymru,1973-1978; ffeiliau'r swyddfa ganolog, 1961-1967, a thaflenni printiedig o'r swyddfa ganolog, 1974-1985; cofnodion Cyngor Talaith Dyfed,1975-1977; gohebiaeth a phapurau ariannol cangen Aberystwyth, 1968-1979; cofnodion cangen Aberystywth,1959-1978; papurau, gohebiaeth a llenyddiaeth yn ymwneud ag etholiadau cyffredinol,1959-[1980au], ac etholiadau lleol,1963-1964. Mae grŵp ychwanegol o bapurau a dderbyniwyd yn 2000 yn dal heb eu catalogio. = Papers of the Ceredigion Area Committee of Plaid Cymru, including minutes, 1939-1984; correspondence, 1944-1981; papers relating to the work and finances of the Committee and its branches, 1959-1971; Annual Conference papers, 1976-1979; newspaper cuttings, 1970-1975; campaigns, 1960-1965; monthly reports of Peter Hughes Griffiths, the area committee organiser, 1970-1972; papers of the women's section, 1973-1978; central office files, 1961-1967, and printed leaflets from the central office, 1974-1985; minutes of the Dyfed Regional Council, 1975-1977; correspondence and financial papers of the Aberystwyth branch, 1968-1979; Aberystwyth branch minutes, 1959-1978; papers, correspondence and literature relating to general elections, 1959-[1980s], and local elections, 1963-1964. A further group of papers received in 2000 remains uncatalogued.
Mae dau grŵp o bapurau ychwanegol yn dal heb eu catalogio.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl y dyddiad derbyn.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mr Tegwyn Jones; Bow Street, Aberystwyth; Rhodd; 1984, 1986 ac 1990
Ysgrifennydd Pwyllgor Rhanbarth Ceredigion; Rhodd; 1985
Cangen Aberystwyth, trwy law Miss Lili Thomas; Llanbadarn Fawr, Aberystwyth; Rhodd; 1989
Cangen Aberystwyth, trwy law Miss Llinos Davies; Llanrug, Gwynedd; Rhodd; 1993
Cangen Aberystwyth, trwy law Richard Huws; Aberystwyth; Rhodd; Awst 2006
Cangen Aberystwyth, trwy law Pedr ap Llwyd; Comins Coch, Aberystwyth; Rhodd; Chwefror 2008

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copïau caled o'r crynodebau ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau, 1984, t. 45, 1986, tt. 58-59, 1987, t. 90, 1989, t. 75, 1991, t. 59, 1993, t. 63, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalogau ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1984, t. 45, 1986, tt. 58-59, 1987, 1989, 1991, 1993; Adroddiad Blynyddol LlGC, 1963-1964; gwefan Plaid Cymru the Party of Wales (plaidcymru.org), edrychwyd Mai 2003;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir cofnodion pellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Plaid Cymru; a phapurau cynharach pwyllgor rhanbarth Ceredigion, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1939-1949, ac adneuwyd gohebiaeth a phapurau, 1944-1949, gan Mrs T. I. Ellis yn 1964.

Additional Information

Published