Mae'r fonds yn cynnwys dwy gyfrol, 1937-1961, yn cofnodi'r niferoedd a oedd yn bresennol yn nosbarthiadau'r Ysgol Sul, Capel Hermon, Llanfachreth, manylion am eu gweithgareddau yno a chyfanswm y casgliadau; nifer o 'lyfrau'r athro' a gedwid gan athrawon yr Ysgol Sul, 1959-1968, yn rhestri enwau'r plant o fewn y dosbarthiadau unigol a manylion am eu presenoldeb; ynghyd â llyfr cyfrifon, 1912-1927, yn cofnodi cyfraniadau'r aelodau at wahanol gasgliadau a chyfres o holiaduron, 1916-1929, yn rhoi manylion am y capel a'r aelodau.
CMA: Cofysgrifau Capel Hermon, Llanfachreth
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 HERLLA
- Alternative Id.(alternative) vtls004282264(alternative) (WlAbNL)0000282264
- Dates of Creation
- 1912-1968
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg
- Physical Description
- 0.009 metrau ciwbig (1 bocs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Saif y capel rhyw hanner ffordd rhwng Llanfachreth ac Abergeirw. Sefydlwyd yr achos yn Hermon ym 1865 ac roedd lle i 120 i eistedd yn y capel gwreiddiol. Parhaodd mewn cysylltiad agos â chapel Abergeirw.
Arrangement
Trefnwyd yn LlGC yn bum ffeil yn gronolegol yn ôl dyddiad derbyn.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Cyflwynwyd rhifau /1-/3 gan Mr Alun Williams, Cil-y-coed, Ffordd y Bermo, Dolgellau, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, a rhifau /4-/5 gan y Parch. Adrian P. Williams, Blaenau Ffestiniog, yn Ionawr 2003.; 0200300861
Note
Saif y capel rhyw hanner ffordd rhwng Llanfachreth ac Abergeirw. Sefydlwyd yr achos yn Hermon ym 1865 ac roedd lle i 120 i eistedd yn y capel gwreiddiol. Parhaodd mewn cysylltiad agos â chapel Abergeirw.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC, 2001-.
Archivist's Note
Chwefror 2003.
Lluniwyd gan J. Graham Jones.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Owen, R. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1888 (Dolgellau, 1889); Ellis, H. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III (1885-1925) (Dolgellau, 1928).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
Additional Information
Published