Cofnodion, 1839 - 1967, yn ymwneud ag Eglwysi Methodistiaid Calfinaidd Môn a hefyd Dulyn, yn cynnwys llyfrau cofnodion, rhaglenni a chyfeiriadau yn ymwneud a chyfarfodydd, cyfrifon ariannol, ystadegau, cofrestrau bedyddiadau a phriodasau, gohebiaeth, a thystysgrifau marwolaeth.
Cofnodion Methodistiaid Calfinaidd Ynys Môn (Cofnodion Cyfarfod Misol Môn)
This material is held atArchifau Ynys Môn / Anglesey Archives
- Reference
- GB 221 WDE
- Dates of Creation
- 1839 - 1967
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg English
- Physical Description
- 0.103 metr ciwbig (165 eitem)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Henaduriaeth Môn yw'r henaduriaeth sy'n gyfrifol am weinyddu capeli Methodistiaid Calfinaidd Ynys Môn. Roedd hefyd yn rhedeg Capel Cymraeg, Stryd Talbot, Dulyn, Iwerddon, a adeiladwyd yn 1838 ar gyfer llongwyr Cymreig yn y ddinas tan 1939; gwerthwyd y capel yn 1944.
Arrangement
Wedi eu trefnu fel a ganlyn: Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Gymraeg Dulyn (cyfrifon amrywiol; cofrestrau; gohebiaeth ag ystadegau; tystysgrifau marwolaeth, 1839 - 1944); Llyfrau cofnodion Methodistiaid Calfinaidd yn Ynys Môn (Cyfarfodydd Dosbarth Amlwch a'r Cylch) a Cyfarfod Misol Môn, 1859 - 1957, a Henaduriaeth Môn, 1928 - 1939; rhaglenni a chyfiriadau, 1916 - 1960; adroddiadau ariannol, 1881 - 1960; adroddiadau blynyddol arholiadau Ysgol Sul, 1901 - 1938; adroddiadau a blwyddlyfrau, 1905 - 1965; cylchlythyrau, 1910 - 1945; llythyrau yn ymwneud a gwerthu Capel Cymraeg Dulyn, 1921 - 1944.
Access Information
Dim cyfyngiadau/ No Restrictions
Acquisition Information
Caffaeledig 1975 & 1980
Note
Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)
Other Finding Aids
Mae copiau clawr caled o`r catalogau ar gael yn Archifau Ynys Môn ac yn y Gofrestr Cenedlaethol Archifau. Polisi Archifau Ynys Môn yw catalogio yn iaith y ddogfen./Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.
Physical Characteristics and/or Technical Requirements
Cyflwr da /Good condition
Archivist's Note
Lluniwyd gan David Moore ar gyfer project ANW. Defnyddiwyd y ffynhonellau canlynol I lunio'r disgrifiad hwn: Catalog Dogfennau Crefyddol Cyfarfod Misol Môn; Williams, Huw Llewelyn, Wrth angor yn Nulyn (Caernarfon, 1968).
Appraisal Information
Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.
Accruals
Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected