Papurau Gwilym Alaw,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 GWILYMALAW
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844880
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1832-1917 (crynhowyd [1860au]-1917) /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Gwilym Alaw, 1832-1917, Castell Rhigos, yn cynnwys cerddi a rhyddiaith a gyfansoddwyd ganddo ef ac eraill, ynghyd â llyfrau nodiadau, torion o'r wasg a defnyddiau eraill perthynol, a hefyd nodiadau ganddo a deunydd arall a gasglodd yn ymwneud yn bennaf â hanes lleol, 1832-1909 = Papers of Gwilym Alaw, 1832-1917, of Castell Rhigos, comprising poetic and prose compositions by himself and others, together with related notebooks, press cuttings and other material, and also notes by him and other material collected by him relating mainly to local history, 1832-1909.

Administrative / Biographical History

Cyfrannodd William Thomas Morgan('Gwilym Alaw',(1844-1917), bardd, o'r Rhigos, Morgannwg, lawer darn o farddoniaeth a rhyddiaith i eisteddfodau lleol, ac yr oedd hefyd yn casglu llenyddiaeth greadigol a ffynonellau deunydd crai yn ymwneud ag ardal y Rhigos.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth; rhyddiaith; llyfrau nodiadau; torion o'r wasg; amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mrs Olwen Samuel, wyres Gwilym Alaw; Glyn Ebwy, Gwent; Rhodd; Rhagfyr 1985

Note

Cyfrannodd William Thomas Morgan('Gwilym Alaw',(1844-1917), bardd, o'r Rhigos, Morgannwg, lawer darn o farddoniaeth a rhyddiaith i eisteddfodau lleol, ac yr oedd hefyd yn casglu llenyddiaeth greadigol a ffynonellau deunydd crai yn ymwneud ag ardal y Rhigos.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1986, tt. 34-37, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Archivist's Note

Mehefin 2003.

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1986;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published