Sgriptiau Gwynne D. Evans

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.

Administrative / Biographical History

Ganwyd Gwynne David Evans ar 9 Medi 1908 yng Nghefneithin. Bu’n brifathro ar Ysgol Gynradd Nantygroes ger Rhydaman ac roedd yn ddramodydd a enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfieithiodd sgript y ffilm Grand Slam (1978) i’r Saesneg. Yr oedd yn un o awduron cynnar Pobol y Cwm yn 1974. Bu’n cynhyrchu Under Milk Wood am nifer o flynyddoedd i’r Laugharne Players yn Saesneg ac yn ddiweddarach yn Gymraeg. Bu farw yn 1988.

Arrangement

Trefnwyd yn un ffeil ar ddeg yn LlGC.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Rhodd gan Mr Peter Hughes-Griffiths, Caerfyrddin, Ebrill 2013.

Note

Ganwyd Gwynne David Evans ar 9 Medi 1908 yng Nghefneithin. Bu’n brifathro ar Ysgol Gynradd Nantygroes ger Rhydaman ac roedd yn ddramodydd a enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfieithiodd sgript y ffilm Grand Slam (1978) i’r Saesneg. Yr oedd yn un o awduron cynnar Pobol y Cwm yn 1974. Bu’n cynhyrchu Under Milk Wood am nifer o flynyddoedd i’r Laugharne Players yn Saesneg ac yn ddiweddarach yn Gymraeg. Bu farw yn 1988.

Archivist's Note

Medi 2016

Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: papurau yn yr archif.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Appraisal Information

Dinistriwyd dyblygion o sgriptiau a Stage Directions a chardiau cyfarch.

Additional Information

Published