Papurau R. Elwyn Hughes

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 RELWES
  • Alternative Id.
      (alternative) 99745216302419
  • Dates of Creation
    • [1660]-2012 (gyda bylchau)
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English
  • Physical Description
    • 6 bocs

Scope and Content

Papurau’r biocemegydd, yr ymgyrchydd iaith, a’r hanesydd gwyddoniaeth R. Elwyn Hughes, [1660]-2012, yn cynnwys papurau’n ymwneud â’i ymchwil gwyddonol ac ar gyfer cyhoeddiadau ar hanes gwyddoniaeth, ynghyd â gohebiaeth. = Papers of R. Elwyn Hughes, biochemist, language campaigner and science historian, [1660]-2012, including papers relating to his scientific research and to publications on the history of science, together with correspondence.

Administrative / Biographical History

Yr oedd R. Elwyn Hughes yn fiocemegydd a anwyd ar 18 Hydref 1928 yn Rhaeadr Gwy ac fe'i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg. Graddiodd o Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt. Cyfrannodd yn gyson i'r Gwyddonydd a dyfarnwyd iddo’r fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri 2005 am ei gyfraniad i'r byd gwyddonol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Yr oedd hefyd yn ymgyrchydd iaith. Bu farw ar 30 Tachwedd 2015.

Arrangement

Trefnwyd yn LLGC yn bedair cyfres ac yn bedair ffeil.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs E. Ceri Hughes, Caerdydd, Tachwedd 2016, 99745216302419.

Note

Yr oedd R. Elwyn Hughes yn fiocemegydd a anwyd ar 18 Hydref 1928 yn Rhaeadr Gwy ac fe'i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg. Graddiodd o Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt. Cyfrannodd yn gyson i'r Gwyddonydd a dyfarnwyd iddo’r fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri 2005 am ei gyfraniad i'r byd gwyddonol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Yr oedd hefyd yn ymgyrchydd iaith. Bu farw ar 30 Tachwedd 2015.

Archivist's Note

Medi 2017

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Gwaredwyd allbrintiau o wefannau a llungopïau, [1950]-[2014], yn ymwneud â phynciau fel maetheg ac erthyglau o’r Bywgraffiadur arlein.

Additional Information

Published

Final