• Reference
    • GB 210 /1
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004305012
      (alternative) (WlAbNL)0000305012
  • Dates of Creation
    • 1980-2001
  • Name of Creator
  • Physical Description
    • 3 amlen, 2 ffolder (5 cm.)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng Carys Bell a'r Parch. Huw Ethall a'i wraig Hilda, 1981 a 1989-2001; llythyrau gan yr arlunydd Helen Steinthal, 1981 a 1989-1991, ynghyd â nodiadau bywgraffydol yn ei llaw a chopi o deyrnged Carys Bell iddi a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1992; gohebiaeth, 1980 a 1982-1985, rhwng Carys Bell a Selyf Roberts (Cadeirydd Undeb Awduron Cymru), sef cyngor ynghylch ei gweithiau llenyddol, gyda chrynodeb ac adroddiad darllenydd o'i nofel Ynys y cylch; gohebiaeth rhwng Carys Bell a gwasg Honno, 1988-2000 (gyda bylchau), yn cynnwys llythyrau gan Leigh Verrill-Rhys (4) a Deirdre Beddoe (copi), ynghyd â llawysgrif atgofion Carys Bell am ei phlentyndod adeg yr Ail Ryfel Byd, a ymddengys i fod yn ddrafft o'r ysgrif a gyfrannodd ar gyfer y gyfrol Parachutes and petticoats; a gohebiaeth amrywiol, 1970-2001 (gydag amryw fylchau).

Note

Preferred citation: /1

Related Material

Mae llythyr gan Helen Steinthal, [c. 1982], ynghyd â chopi o erthygl am yr arlunydd gan Carys Richards a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1989, yn 1/12. Ceir copi o'r atgofion 'Cyri ger y Carneddi', a gyhoeddwyd gan Honno yn y gyfrol Iancs, conshis a spam, gol. L. Verrill-Rhys (Dinas Powys, 2002), yn ffeil 1/12. Yn ogystal, mae copi o atgofion Carys Richards 'Our lives during the 39-45 war', sef cyfraniad i'r gyfrol a gyhoeddwyd gan Honno, Parachutes and petticoats : Welsh women writing on the Second World War (Dinas Powys, 1992), yn NLW MS 23073D (ff. 256-260).

Additional Information

Published