Papurau'n ymwneud â Rhieni dros Addysg Gymraeg, 1963-1988, yn cynnwys copïau o gofnodion, 1963-1988, y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chofnodion y Pwyllgor Gwaith; adroddiadau blynyddol, 1984-1988; copi o gyfansoddiad y grŵp a luniwyd yn 1983; gwahanol adroddiadau a baratowyd gan y grŵp, 1983-1988; ac adroddiadau a baratowyd gan bwyllgorau sir y mudiad, 1981-1987. = Papers relating to Rhieni dros Addysg Gymraeg1963-1988, including copies of minutes, 1963-1988, of the AGMs and the executive committee minutes; annual reports, 1984-1988; a copy of the group's constitution prepared in 1983; various reports prepared by the group, 1983-1988; and reports prepared by the movement's county committees, 1981-1987.
Papurau ychwanegol gan gynnwys papurau'r Gynhadledd Flynyddol, 1983-1987; cyfrol yn cynnwys cyfansoddiad 'Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg', a chofnodion cyfarfodydd, 1963-1982; a papurau Taflen 'Holi ac Ateb'. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.
Papurau Rhieni dros Addysg Gymraeg,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 RHIAEG
- Alternative Id.(alternative) vtls003844640(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1963-1988 /
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg.
- Physical Description
- 0.009 metrau ciwbig (1 bocs); 1 bocs bychan (Hydref 2011).
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn gymdeithas a adnabyddid cyn 1983 fel Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg. Mae'n gymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni drwy Gymru gyfan. Mae'r grŵp yn cynnwys Cymry Cymraeg a rhai di-Gymraeg fel ei gilydd. Eu prif safbwynt yw bod dwyieithrwydd yn un o'r rhoddion gorau y gellir eu cyflwyno i blentyn. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn argyhoeddedig y bydd y gallu i siarad Cymraeg yn helpu plant i fagu hyder ynddynt eu hunain ac yn eu diwylliant. Nod cyffredinol y grŵp yw hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog ac ymgyrchu i wella gwasanaethau ar gyfer y nifer cynyddol o blant sydd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: cofnodion y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd y pwyllgor gwaith; adroddiadau blynyddol; cyfansoddiad y grŵp; adroddiadau a gynhyrchwyd gan y grŵp; ac adroddiadau a memoranda pwyllgorau sir y grŵp.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Wyn Rees, Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Rhieni dros Addysg Gymraeg; Caerdydd; Rhodd; 1989
Meyrig Royles; Y Rhyl; Rhodd; Hydref 2011
Note
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn gymdeithas a adnabyddid cyn 1983 fel Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg. Mae'n gymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni drwy Gymru gyfan. Mae'r grŵp yn cynnwys Cymry Cymraeg a rhai di-Gymraeg fel ei gilydd. Eu prif safbwynt yw bod dwyieithrwydd yn un o'r rhoddion gorau y gellir eu cyflwyno i blentyn. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn argyhoeddedig y bydd y gallu i siarad Cymraeg yn helpu plant i fagu hyder ynddynt eu hunain ac yn eu diwylliant. Nod cyffredinol y grŵp yw hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog ac ymgyrchu i wella gwasanaethau ar gyfer y nifer cynyddol o blant sydd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1989, tt. 78-79,yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Archivist's Note
Mai 2003.
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1989; gwefan Rhieni dros Addysg Gymraeg (www.rhag.net), edrychwyd 10 Mai 2003;
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddsgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published