CMA: Cofysgrifau Capel y Rhos, Rhuthun

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 RHOSUN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004265227
      (alternative) (WlAbNL)0000265227
  • Dates of Creation
    • 1861-1869
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (1 gyfrol) (Gorffennaf 2000); 1 gyfrol (Chwefror 2007)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys llyfr derbyniadau a thaliadau, 1861-1869, a llyfr yr Eisteddleoedd, 1873-1880.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd Capel Stryt y Rhos ym 1789. Bu Thomas Jones Dinbych, y Parch. John Jones, mab Edward Jones, Maes y Plwm, a Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) yn gysylltiedig â'r capel yn eu tro. Tyfodd wyth o achosion yr ardal o'r eglwys hon. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ynddo ym 1891 pan symudwyd i gapel newydd yn y dref a elwid Y Tabernacl. Ar ôl hyn bu'r capel yn ganolfan ar gyfer yr Ysgol Sul a gweithgareddau eraill hyd 1944.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn un ffeil.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Cafwyd ymhlith Cofysgrifau Capel y Tabernacl, Rhuthun, a adneuwyd gan y Parchedig John Owen, gweinidog Capel y Tabernacl, Gorffennaf 2000. Daeth un gyfrol trwy law'r Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Chwefror 2007.

Note

Adeiladwyd Capel Stryt y Rhos ym 1789. Bu Thomas Jones Dinbych, y Parch. John Jones, mab Edward Jones, Maes y Plwm, a Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) yn gysylltiedig â'r capel yn eu tro. Tyfodd wyth o achosion yr ardal o'r eglwys hon. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ynddo ym 1891 pan symudwyd i gapel newydd yn y dref a elwid Y Tabernacl. Ar ôl hyn bu'r capel yn ganolfan ar gyfer yr Ysgol Sul a gweithgareddau eraill hyd 1944.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Awst 2002

Lluniwyd gan Siân Bowyer.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: J. Meirion Lloyd Pugh, gol., Dathlu Dwbwl. Hanes daucanmlwyddiant yr Achos 1791-1991. Capel y Rhos 1791-1891 a'r Tabernacl 1891-1991 Rhuthun (Rhuthun: 1991); Pierce Owen, Hanes Methodistiaeth Dyffryn Clwyd: Dosbarth Rhuthyn (O'r dechreu hyd ddiwedd y flwyddyn 1915) (Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd, 1921); R. H. Evans, gol., Hanes Henaduriaeth Dyffryn Clwyd (Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, 1986); Cronfa CAPELI LlGC.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Mae cofrestr bedyddiadau, 1803-1837, ar gadw yn yr Archifdy Gwladol (PRO: RG4/3463) a cheir copi microffilm yn LlGC. Ceir hefyd pamffledi printiedig yn nodi cyfrifon a rhestri tanysgrifwyr i ddileu dyled y Capel, 1865-1866 a 1876-1877, yn LlGC. Yn ogystal, fe gedwir lluniau a deunydd yn ymwneud â hanes y capel yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun.

Additional Information

Published