Papurau Adran Amaethyddol Gymraeg, Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Papurau yn ymwneud ag Adran Amaethyddol Cymraeg Prifysgol Cymru, 1936-1967, yn cynnwys cyfrifon,1950-1962; rhestri aelodaeth, 1949-1963; cofnodion printiedig Urdd y Graddedigion, 1927-1951; a gohebiaeth yn ymwneud â thermau amaethyddol, 1944-1968 = Papers relating to the University of Wales Guild of Graduates, Adran Amaethyddol Cymraeg, 1936-1967, comprising accounts, 1950-1962; membership lists, 1949-1963; printed records of the Guild of Graduates, 1927-1951; and correspondence relating to farming terms, 1944-1968.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru yn y flwyddyn 1894. Mae pawb sydd yn graddio o'r Brifysgol yn aelodau. Trefnir yn Adrannau sy'n ymdrin â gwahanol bynciau, a Changhennau sy'n ymdrin ag ardaloedd penodol. Roedd yr Adran Amaethyddol Gymraeg yn weithredol o 1927-1968. Ffurfiodd bwyllgor (Pwyllgor Bathu Geiriau) i awgrymu termau newydd Cymraeg ar gyfer amaethyddiaeth, a chyhoeddi cylchgrawn, Gwyddor Gwlad, 1952-1963.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: nodiadau ac adroddiadau; cyfrifon; rhestri aelodaeth; a gohebiath.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Menna Phillips; Aberystwyth; Rhodd; 1982

Note

Sefydlwyd Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru yn y flwyddyn 1894. Mae pawb sydd yn graddio o'r Brifysgol yn aelodau. Trefnir yn Adrannau sy'n ymdrin â gwahanol bynciau, a Changhennau sy'n ymdrin ag ardaloedd penodol. Roedd yr Adran Amaethyddol Gymraeg yn weithredol o 1927-1968. Ffurfiodd bwyllgor (Pwyllgor Bathu Geiriau) i awgrymu termau newydd Cymraeg ar gyfer amaethyddiaeth, a chyhoeddi cylchgrawn, Gwyddor Gwlad, 1952-1963.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1982, t.1 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Ebrill 2003; diwygiwyd Ebrill 2005.

Lluniwyd gan Annette Strauch a Marin Locock i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1982;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published