CMA: Cofysgrifau Capel Beddgelert

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BEDERT
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004259766
      (alternative) (WlAbNL)0000259766
  • Dates of Creation
    • 1873-1998
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg oni nodir yn wahanol
  • Physical Description
    • 0.018 metrau ciwbig (2 focs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu Capel Beddgelert a threfnu cyfarfodydd a gwasanaethau. Mae hefyd yn cynnwys llyfrau cyfrifon ysgrifennydd y 'Cyfarfod Ysgolion', sef cyfarfod chwarterol Ysgolion Sul Beddgelert, Rhyd-ddu, Bethania, Peniel a Blaen Nantmor.

Administrative / Biographical History

Codwyd y Capel cyntaf ym Meddgelert ym 1794. Capel bychan iawn ydoedd heb unrhyw eisteddleoedd a thŷ bychan ynghlwm iddo. Atgyweiriwyd yr adeilad ym 1826, cyn gwario £1100 arno ym 1858, gan wneud lle i 400 o bobl. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog ym 1898. Roedd 196 o aelodau yng nghapel Beddgelert ym 1900. Roedd yr achos mor boblogaidd ym Meddgelert nes bu'n rhaid sefydlu tri chapel arall yn yr ardal, sef Bethania yn 1822, Rhyd-ddu yn 1825 a Peniel ym 1833. Roedd y Capel ar gau adeg llunio'r disgrifiad hwn.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn dair cyfres: Llyfrau Cyfrifon; Llyfrau Cyfrifon Ysgrifennydd y Cyfarfod Ysgolion; a Llyfrau Cofnodion; ac yn ddwy ffeil.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, Mehefin 2002.; 0200208833

Note

Codwyd y Capel cyntaf ym Meddgelert ym 1794. Capel bychan iawn ydoedd heb unrhyw eisteddleoedd a thŷ bychan ynghlwm iddo. Atgyweiriwyd yr adeilad ym 1826, cyn gwario £1100 arno ym 1858, gan wneud lle i 400 o bobl. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog ym 1898. Roedd 196 o aelodau yng nghapel Beddgelert ym 1900. Roedd yr achos mor boblogaidd ym Meddgelert nes bu'n rhaid sefydlu tri chapel arall yn yr ardal, sef Bethania yn 1822, Rhyd-ddu yn 1825 a Peniel ym 1833. Roedd y Capel ar gau adeg llunio'r disgrifiad hwn.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Rhagfyr 2002

Lluniwyd gan Owain Schiavone.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: W. Hobley Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Caernarvon, Ardaloedd Waenfawr a Beddgelert (1913).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Related Material

Ceir adroddiadau blynyddol y Capel, 1914-1972 (gyda bylchau), yn LlGC, a hanes yr achos ym Meddgelert yn Llawysgrifau LlGC 9185E a 20909C. Trosglwyddwyd llyfr cofnodion, 1915-1918, pwyllgor ymgynghorol yn ardal Beddgelert, yn ymdrin ag achosion o eithrio o wasanaeth milwrol, i NLW ex 2215.

Additional Information

Published