Archifau'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BWRDDFFILM
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844047
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1970-1991 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.574 metrau ciwbig (42 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofnodion Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1986, yn cynnwys papurau gweinyddol, gohebiaeth gyffredinol, gohebiaeth yn ymwneud â chynhyrchu ffilmiau i'r Bwrdd, a phapurau a gohebiaeth yn ymwneud â phynciau ariannol,1972-1986, gan cynnwys cofnodion y Bwrdd, 1970-1972, dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; a chofnodion ariannol,1986-1991 = Records of Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1986, comprising administrative papers, general correspondence, correspondence relating to the production of films for the Board, and papers and correspondence relating to financial matters, 1972-1986, and including minutes of the Board for 1970-1972, under the name Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; and financial records, 1986-1991.

Administrative / Biographical History

Ffurfiwyd Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dan adain Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru o ganlyniad i ysgol breswyl ar Gyfryngau Llenyddol Newydd yng Ngregynog, ger y Trallwng, sir Drefaldwyn, ym mis Gorffennaf 1970. Ei nod oedd annog a hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg, ar adeg pan nad oedd cyfleoedd eraill ar gael i wneuthurwyr ffilmiau Cymraeg eu hiaith, i bob diben. Gweithredai ar y cychwyn dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog, gan newid ei enw dros dro i Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd yn 1972, cyn mabwysiadu'r enw Bwrdd Ffilmiau Cymraeg yn fuan wedyn, a bu'n cynhyrchu llawer o ffilmiau yn y Gymraeg cyn cael ei ddiddymu ym mis Medi 1986.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: gweinyddol (cofnodion; gohebiaeth); ariannol; ac amrywiol (adnau 1989); ac ariannol ychwanegol (adnau 1991).

Access Information

Mae Bocs 7 ar gau tan y flwyddyn 2019. Nid oes cyfyngiadau eraill. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mr Raymond Griffiths, o gwmni J. R. Thomas a'i Gwmni; Adnau; 1989 ac 1991

Note

Ffurfiwyd Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dan adain Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru o ganlyniad i ysgol breswyl ar Gyfryngau Llenyddol Newydd yng Ngregynog, ger y Trallwng, sir Drefaldwyn, ym mis Gorffennaf 1970. Ei nod oedd annog a hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg, ar adeg pan nad oedd cyfleoedd eraill ar gael i wneuthurwyr ffilmiau Cymraeg eu hiaith, i bob diben. Gweithredai ar y cychwyn dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog, gan newid ei enw dros dro i Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd yn 1972, cyn mabwysiadu'r enw Bwrdd Ffilmiau Cymraeg yn fuan wedyn, a bu'n cynhyrchu llawer o ffilmiau yn y Gymraeg cyn cael ei ddiddymu ym mis Medi 1986.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Archivist's Note

Ionawr 2003.

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC Rhestr o Archifau'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg; gwefan LlGC (www.llgc.org.uk), edrychwyd Ionawr 2003;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.

Custodial History

Aeth y cofnodion i law y Derbynnydd, J. R. Thomas a'i Gwmni, Bangor, a fu'n ymdrin â materion ariannol hyd 1991.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Y mae negyddion y rhan fwyaf o'r ffilmiau a gynhyrchwyd gan y Bwrdd, ynghyd â phrintiau a wnaed o'r ffilmiau, yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir cofnodion dau gyfarfod o'r Bwrdd, ym misoedd Mawrth a Thachwedd 1976, ynghyd â phapurau yn ymwneud â Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd a chopi o sgript gan Dafydd Huw Williams a William Aaron,yn dwyn y teitl 'Hen Dynnwr Lluniau', yn LlGC, Papurau Emyr Humphreys AIX/1/63.

Additional Information

Published