Papurau Gwydderig, yn cynnwys ei farddoniaeth a deunydd perthynol yn cynnwys beirniadaethau eisteddfodol, torion o'r wasg, adysgrifau o'i waith a gohebiaeth, 1877-1917; ynghyd â barddoniaeth gan feirdd eraill yn cynnwys William Williams ('Myfyr Wyn', 1849-1900), a llyfr nodiadau ei frawd Benjamin Williams = Papers of Gwydderig, comprising his poetry and related material including eisteddfod adjudications, press cuttings, transcripts of his works and correspondence, 1877-1917; together with poetry by other poets including William Williams ('Myfyr Wyn', 1849-1900), and a notebook of his brother Benjamin Williams.
Papurau Gwydderig
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 GWYDDERIG
- Alternative Id.(alternative) vtls003844900(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1877-1917
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- 0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Ganwyd Richard Williams (Gwydderig, 1842-1917), bardd, ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin. Aeth i weithio fel glöwr yn ifanc, yn dilyn marwolaeth ei dad, a chyflwynodd farddoniaeth i Y Gwladgarwr yn y cyfnod pan oedd William Williams (Caledfryn, 1801-1869) yn olygydd y golofn farddol. Ar ôl gweithio ym Mhennsylvania, UDA, am gyfnod, dychwelodd Gwydderig i Frynaman, a dechreuodd ei gerddi ennill gwobrau mewn eisteddfodau. Ei arbenigedd oedd yr englyn, a daeth yn adnabyddus yn y cylchoedd barddol fel 'Bardd yr englyn'. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn J.Lloyd Thomas (gol.), Detholion o waith Gwydderig (Llandybïe,1959). Yr oedd ei frawd Benjamin hefyd yn fardd.
Arrangement
Trefnwyd yn y grwpiau canlynol: barddoniaeth; adysgrifiadau; llythyrau; amrywiol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mrs Phyllis Murphy a Mrs Susan Margaret Leah trwy law Mr Lewis Murphy; Llanelli; Adnau; Tachwedd 1985
Note
Ganwyd Richard Williams (Gwydderig, 1842-1917), bardd, ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin. Aeth i weithio fel glöwr yn ifanc, yn dilyn marwolaeth ei dad, a chyflwynodd farddoniaeth i Y Gwladgarwr yn y cyfnod pan oedd William Williams (Caledfryn, 1801-1869) yn olygydd y golofn farddol. Ar ôl gweithio ym Mhennsylvania, UDA, am gyfnod, dychwelodd Gwydderig i Frynaman, a dechreuodd ei gerddi ennill gwobrau mewn eisteddfodau. Ei arbenigedd oedd yr englyn, a daeth yn adnabyddus yn y cylchoedd barddol fel 'Bardd yr englyn'. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn J.Lloyd Thomas (gol.), Detholion o waith Gwydderig (Llandybïe,1959). Yr oedd ei frawd Benjamin hefyd yn fardd.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael ym Mân Restri a Chrynodebau 1986, tt. 38-41, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Archivist's Note
Mehefin 2003.
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Mân Restri a Chrynodebau 1986; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Walters, Huw, Gweithgarwch llenyddol Dyffryn Aman yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif (Traethawd PhD Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1985);
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Custodial History
Ni wyddys sut y daeth yr archif i feddiant Mrs Phyllis Murphy a Mrs Susan Margaret Leah.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published