Papurau'r Parch. Richard Ellis Williams, rhai eglwysig yn bennaf, 1802-1950, yn cynnwys cyfrolau o nodiadau pregethau, 1887-1918; pregethau, 1883-1926; gohebiaeth R. A. Ellis Williams yn ymwneud â Chymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru a Gwobr Goffa Richard Ellis Williams, 1947-1950; a phregethau Humphrey Ellis, Salem, Cwmfelin, [1860]-1870. = Papers of the Rev. Richard Ellis Williams, mainly ecclesiastical, 1802-1950, including volumes of sermon notes, 1887-1918; sermons, 1883-1926; correspondence of R. A. Ellis Williams relating to Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru and Y Gwobr Goffa Richard Ellis Williams, 1947-1950; and sermons of Humphrey Ellis, Salem, Cwmyfelin, [1860]-1870.
Papurau Richard Ellis Williams,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 RICELIAMS
- Alternative Id.(alternative) vtls003844435(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1802-1950 (crynhowyd [1880]-1950) /
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English German Cymraeg, Saesneg, Almaeneg.
- Physical Description
- 0.036 metrau ciwbig (2 focs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yr oedd y Parch. Richard Ellis Williams (1862-1926), o Ben-y-ffridd, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd, yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Gweithiodd yng ngorsaf rheilffordd Dolgellau, sir Feirionnydd, cyn symud i Fanceinion, swydd Caerhirfryn, ac yna i Goleg y Bedyddwyr yn Llangollen, sir Ddinbych. Bu'n weinidog ar Gapel Penuel. Cwmafan, sir Fynwy, 1886-1889, gweinidog yn Llundain, 1890-1904, ac ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, 1904-1926. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn hanes ei enwad ac am ugain mlynedd olaf ei fywyd bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru; sefydlodd y Gymdeithas Wobr Goffa Richard Ellis Williams yn 1947, mewn ymgynghoriad â'i fab R. A. Ellis Williams.
Arrangement
Trefnwyd fesul bocs.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mrs R. A. Ellis Williams, merch yng nghyfraith R. Ellis Williams; Caterham; Rhodd; 1981
Note
Yr oedd y Parch. Richard Ellis Williams (1862-1926), o Ben-y-ffridd, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd, yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Gweithiodd yng ngorsaf rheilffordd Dolgellau, sir Feirionnydd, cyn symud i Fanceinion, swydd Caerhirfryn, ac yna i Goleg y Bedyddwyr yn Llangollen, sir Ddinbych. Bu'n weinidog ar Gapel Penuel. Cwmafan, sir Fynwy, 1886-1889, gweinidog yn Llundain, 1890-1904, ac ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, 1904-1926. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn hanes ei enwad ac am ugain mlynedd olaf ei fywyd bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru; sefydlodd y Gymdeithas Wobr Goffa Richard Ellis Williams yn 1947, mewn ymgynghoriad â'i fab R. A. Ellis Williams.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r archif yn cynnwys peth deunydd cynharach a gasglwyd gan Richard Ellis Williams ac sy'n rhagddyddio ei eni, a gohebiaeth ei fab sy'n ôl-ddyddio ei farwolaeth.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y teitl 'Rhestr o Bapurau Richard Ellis Williams'. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Archivist's Note
Ebrill 2003.
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr of Bapurau Richard Ellis Williams;
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i LlGC.
Custodial History
Daeth y papurau i feddiant ei fab, R. A. Ellis Williams.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published