Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Eglwys Moreia, Morfa Nefyn, 1859-1994, megis cofrestr bedyddiadau, 1859-1882, llyfr cofnodion a chyfrifon y Capel Coed a'r Capel Newydd, 1881-1909, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1898-1985, llyfrau'r eisteddleoedd, 1903-1977, a llyfrau cofnodion cyfarfodydd y swyddogion, 1931-1994; ynghyd â llyfrau cyfrifon a llafur yr Ysgol Sul, 1887-1989.
CMA: Cofysgrifau Eglwys Moreia, Morfa Nefyn
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 MORNEF
- Alternative Id.(alternative) vtls004241138(alternative) (WlAbNL)0000241138
- Dates of Creation
- 1859-1994
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg oni nodir yn wahanol
- Physical Description
- 0.081 metrau ciwbig (9 bocs)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yn 1825 neu 1826 adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul a sefydlwyd ym Morfa Nefyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyfodd yr Ysgol Sul i'r fath raddau nes penderfynwyd sefydlu eglwys yn y pentref, ac adeiladwyd capel yno yn 1853 neu 1854. Adeiladwyd y capel presennol yn 1882 gyferbyn â safle'r hen adeilad a chodwyd 'Capel Pren' i addoli ynddo tra adeiladwyd y capel newydd.
Arrangement
Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: cofnodion a chyfrifon yr Eglwys, a chofnodion a chyfrifon yr Ysgol Sul.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan Mr R. Emlyn Jones, Pwllheli, a'r Parchedig Goronwy Prys Owen, Y Bala, Tachwedd 2001.; CMA2001/15
Note
Yn 1825 neu 1826 adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul a sefydlwyd ym Morfa Nefyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyfodd yr Ysgol Sul i'r fath raddau nes penderfynwyd sefydlu eglwys yn y pentref, ac adeiladwyd capel yno yn 1853 neu 1854. Adeiladwyd y capel presennol yn 1882 gyferbyn â safle'r hen adeilad a chodwyd 'Capel Pren' i addoli ynddo tra adeiladwyd y capel newydd.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Archivist's Note
Mai 2002
Lluniwyd gan Ifan Prys.
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r catalog: Owen, John, Crynodeb o Hanes y Methodistiaid Calfinaidd ym Morfa Nefyn 1810-1932 (Caernarfon, 1932).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Additional Information
Published