Llawysgrifau Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 CANCYMRU
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844742
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • [c. 1953]-[c. 1975] (crynhowyd 1979-1990) /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 0.144 metrau ciwbig (15 bocs, 1 ffolder, 1 amlen); 2 ffolder (Tachwedd 2010)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Copiau llawysgrif a theipysgrif o lyfrau plant gan Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly a nifer o awduron eraill a gasglwyd gan Ganolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c. 1975] = Manuscripts and typescripts of children's books by Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly and many others collected by Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c.1975].
Llawysgrifau ychwanegol gan gynnwys llyfr lloffion yn eiddo i Jennie Thomas, un o gyd-awduron 'Llyfr Mawr y Plant', yn cynnwys toriadau o'r wasg yn ymwneud a chyhoeddi'r llyfr; nodiadau a theipysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones ar 'Llyfr Bach Culhwch'; llawysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones o 'Llyfr Mawr Culhwch' a chyfieithiad yn ei llaw o 'Dan Hwyaden', a llythyron oddi wrthi hi at wahanol bobl. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto (Awst 2011).

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru (the Welsh National Centre for Children's Literature) yn 1979 i hyrwyddo astudiaeth ar y pwnc ac i ddatblygu casgliad cenedlaethol o lyfrau Cymraeg ac Eingl-Gymreig i blant, yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1974. Aethpwyd ati i gasglu copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o lyfrau plant. Yn 1989, trosglwyddwyd prif weithgareddau y Ganolfan, yn ymwneud â chyhoeddiadau cyfredol a diweddar, i Adran y Plant, Cyngor Llyfrau Cymraeg, tra bod Adran Gwybodaeth ac Astudiaethau Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd yn gyfrifol am weithgareddau eraill.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad yr adnau.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Menna Lloyd Williams,; Cyngor Llyfrau Cymraeg; Adnau,; 1991, 1993, 1998 a 2010

Note

Sefydlwyd Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru (the Welsh National Centre for Children's Literature) yn 1979 i hyrwyddo astudiaeth ar y pwnc ac i ddatblygu casgliad cenedlaethol o lyfrau Cymraeg ac Eingl-Gymreig i blant, yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1974. Aethpwyd ati i gasglu copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o lyfrau plant. Yn 1989, trosglwyddwyd prif weithgareddau y Ganolfan, yn ymwneud â chyhoeddiadau cyfredol a diweddar, i Adran y Plant, Cyngor Llyfrau Cymraeg, tra bod Adran Gwybodaeth ac Astudiaethau Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd yn gyfrifol am weithgareddau eraill.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1992, tt. 10-14; 1994, t. 7 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2005

Lluniwyd gan Martin Locock ac Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1992; 1994; 1998; a 1999; Huws, G., Llyfrau Plant / Children's Books in Welsh, 1900-1991 (LlGC, Aberystwyth, 1997).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

NLW ex 1636, LlGC Cofnodion Cyngor Celfyddydau Cymru. Hefyd ffotograffau a darluniau.

Additional Information

Published

Geographical Names