CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Dyserth

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BETDYS
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004277868
      (alternative) (WlAbNL)0000277868
  • Dates of Creation
    • 1854-1974
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg
  • Physical Description
    • 0.036 metrau ciwbig (13 cyfrol, 1 ffolder)Mae rhannau o'r fonds yn cynnwys cyfrolau gyda chloriau sy'n rhydd. Gweler disgrifiadau lefel ffeil.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau gweinyddol ac ariannol Eglwys Bethel, Dyserth. Ceir yn eu plith llyfrau cyfrifon, 1854-1951, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1915-1967, cofrestri eglwysig, 1900-1974, llyfrau cofnodion, 1916-1966, a thaflenni ystadegol, 1952-1962.

Administrative / Biographical History

Credir fod seiliau'r Eglwys fel cynulleidfa yn hytrach nag adeilad yn mynd yn ôl i 1808. Adeiladwyd Bethel neu Capel Ucha, Dyserth, yn 1822, ar ddarn o dir oedd yn perthyn i'r Parch. Thomas Jones. Rhaid oedd ehangu'r addoldy yn 1849 gan fod y gynulleidfa wedi cynyddu i'r fath raddau. Roedd angen mwy o dir a chyflwynwyd cais i William Shipley Conwy, Neuadd Bodrhyddan, a rhoddodd y tir am ddim. Yn 1869 cafodd y capel ei ailadeiladu i gynllun Richard Owen, Lerpwl, gyda lle i 380 eistedd. Yn 1890 dathlwyd talu'r taliad olaf.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr W. Tecwyn Thomas, Rhyl, Tachwedd 2002.; 0200213812

Note

Credir fod seiliau'r Eglwys fel cynulleidfa yn hytrach nag adeilad yn mynd yn ôl i 1808. Adeiladwyd Bethel neu Capel Ucha, Dyserth, yn 1822, ar ddarn o dir oedd yn perthyn i'r Parch. Thomas Jones. Rhaid oedd ehangu'r addoldy yn 1849 gan fod y gynulleidfa wedi cynyddu i'r fath raddau. Roedd angen mwy o dir a chyflwynwyd cais i William Shipley Conwy, Neuadd Bodrhyddan, a rhoddodd y tir am ddim. Yn 1869 cafodd y capel ei ailadeiladu i gynllun Richard Owen, Lerpwl, gyda lle i 380 eistedd. Yn 1890 dathlwyd talu'r taliad olaf.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Alternative Form Available

Text

Archivist's Note

Gorffennaf 2003.

Lluniwyd y disgrifiad gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (http://www.rcahmw.org.uk), 4 Gorffennaf 2003, ac A. R and L. M. Davies, Dyserth. An historic village (1999).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosib.

Related Material

Ceir cofrestr bedyddiadau'r capel, 1823-1837, yn yr Archifdy Gwladol, PRO: RG4/3872 (copi microffilm yn LlGC); adroddiadau blynyddol y capel, 1919-1958 (gyda bylchau) yn LlGC, a 1959-1975 yn LlGC, CMA 128/1; ystadegau am yr Ysgol Sul, 1818-1821, yn CMA 27639; copi o Y Llusern, Rhagfyr 1988, cylchgrawn ar gyfer Bethel ac eglwysi eraill Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, yn CMA EZ4/16; cofnodion Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, 1822 (CMA 13187) a 1853 (CMA 13188) a gynhaliwyd yn Eglwys Bethel; hanes yr achos a lluniau yn Archifdy Sir Ddinbych yn Rhuthun ac yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor; a gweithredoedd yn Archifdy Sir Fflint ym Mhenarlâg.

Additional Information

Published