Pandy Tudur Council School Llangernyw, cofnodion o/records of

This material is held atArchifau Sir Ddinbych / Denbighshire Archives

  • Reference
    • GB 209 ED/62 Pandy Tudur Council School
  • Dates of Creation
    • 1909-1972
  • Language of Material
    • Welsh English
  • Physical Description
    • 5 boxes
      Manuscript

Scope and Content

Cafodd Ysgol Brydeinig Blaenau Llangernyw ei galw’n Ysgol y Cyngor Pandy Tudur yn 1926.

Roedd Ysgol Brydeinig Blaenau Llangernyw, a adeiladwyd o bosibl yn 1845 gan aelodau Eglwys Fethodistaidd Calfinaidd, hanner milltir o’r pentref ac roedd plant o Bandy Tudur a Gwytherin yn mynychu’r ysgol.

Mae’r cofnod cyntaf yn y llyfr log yn nodi bod yna 100 disgybl ar y gofrestr erbyn Mehefin 1863. Roedd yn ysgol gymysg o blant iau a babanod wedi’u rhannu’n 7 dosbarth.

Y Pennaeth oedd John Price. Bu farw yn Rhagfyr 1892 ar ôl bod yn y swydd am 40 mlynedd.

Roedd llawer o’r plant yn absennol yn aml oherwydd dyletswyddau ffermio. ED/LB/62/8 tudalen 501 ‘y diffyg mwyaf yma fel mewn sawl lle yw presenoldeb gwael yn y safonau uwch...’

Yn Mawrth 1914 R D Aubrey oedd y Pennaeth. Ym mis Mai 1920 roedd adroddiad Arolygiaeth Ei Mawrhydi yn nodi bod y pennaeth –oedd yn addysgu safonau 2-7 gyda chyfanswm o 37 disgybl – yn ormod o amrediad oed i’w dysgu.

Yn 1926, roedd yr ysgol yn cael ei galw yn Ysgol y Cyngor Blaenau, yna cafodd ei galw yn Ysgol y Cyngor Pandy Tudur.

Caeodd yr ysgol yn 1969. Roedd cynnig ysgol newydd yn Chwefror 1968 i Ysgolion a Reolir yn Wirfoddol yn Llangernyw a Throfarth ac Ysgol Gynradd Sirol Pandy Tudur i gael eu huno'n un ysgol gydag 80 o ddisgyblion yn Llangernyw.

Agorodd ysgol newydd, Ysgol Bro Cernyw fel ysgol gyfunol a chanolfan gymunedol yn Llangernyw ar gyfer disgyblion o Langernyw, Pandy Tudur, Trofarth a Gwytherin yn Hydref 1969.

Lleoliad

Pandy Tudur

Abergele

LL22 8UN

OS 25 inch – XI -12 1900 Ed. a 1913 Ed. 'Ysgol’ wedi’i marcio

OS 6 inch – 11.SE 1914-1915 Ed. 'Ysgol’ wedi’i marcio

Mae hwn yn gasgliad iaith gymysg Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n bolisi gennym i gatalogio eitem yn yr iaith y mae yn ysgrifenedig.

Blaenau Llangernyw British School became known as Pandy Tudur Council School in 1926.

Blaenau Llangernyw British School, possibly built in 1845 by members of the Calvanistic Methodist Church, was half a mile from the village and was attended by children from Pandy Tudur and Gwytherin.

The first log book entry records that by June 1863 there were 100 scholars on roll. It was a mixed junior and infants school divided into 7 classes. John Price was Head Teacher. He died in December 1892 having been in this role for 40 years.

Many of the children were often absent due to farming duties. ED/LB/62/8 page 501 ‘The great drawback here as in many places is bad attendance in the upper standards….’

In March 1914 RD Aubrey became Head Teacher. In May 1920 a HMI report stated that the head teacher – teaching standards 2-7 with a total of 37 scholars - was too great an age range to teach.

In 1926 the school, which had become known as Blaenau Council School, latterly became known as Pandy Tudur Council School.

The school closed in 1969. A new school proposal in February 1968 was for Llangernyw and Trofarth Voluntary Controlled Schools and Pandy Tudur County Primary School to be merged into a new school for 80 pupils at Llangernyw.

The new school, Ysgol Bro Cernyw, was opened as a combined school and community centre in Llangernyw to take all pupils from Llangernyw, Pandy Tudur, Trofarth and Gwytherin in October 1969.

Location

Pandy Tudur

Abergele

LL22 8UN

OS 25 inch – XI -12 1900 Ed. and 1913 Ed. Marked ‘School’

OS 6 inch – 11.SE 1914-1915 Ed. Marked ‘School’

This is a mixed Welsh and English language collection. It is our policy to catalogue an item in the language it is written.

Arrangement

Mae cofnodion ysgol yn cael eu trefnu fel a ganlyn;

1 Llyfrau log

2 Cofrestri derbyn

3 Cofrestrau presenoldeb

4 Cofnodion rheolwyr

5 Cyfrifon

6 Cynlluniau

7 Ffotograffau

8 Amrywiol

School records are arranged as follows;

1. Log books

2. Admission registers

3. Attendance registers

4. Managers minutes

5. Accounts

6. Plans

7. Photographs

8. Miscellaneous

Access Information

Mae'r holl gofnodion ysgol sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif ar gau am 75 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys llyfrau log, cofrestri derbyn a phresenoldeb a rhai llyfrau cofnodion.

All school records containing personal or sensitive information are closed for 75 years. This includes log books, admission and attendance registers and some minute books.

Archivist's Note

Collection level extent has been estimated.

Subjects

Geographical Names