Papurau W. Ambrose Pretty

This material is held atArchifau Ynys Môn / Anglesey Archives

  • Reference
    • GB 221 WDAF
  • Dates of Creation
    • 1919 - 1980
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg English
  • Physical Description
    • 0.006 metr ciwbig (117 eitem)

Scope and Content

Papurau W. Ambrose Pretty, Ynys Môn, 1919 - 1980, yn cynnwys darlithoedd ac erthyglau, 1934 - 1968; papurau yn ymwneud a Clwb Tenis Llanfairpwll, 1935 - 1937; papurau Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, 1936 - 1980; papurau Pwyllgor Lleol Llanfairpwll Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1956 - 1957; papurau yn ymwneud a Sefydliad Coffa Llanfairpwll, 1919 - 1962; Ysbyty C & A Bangor, 1925 - 1950; a papurau Hugh J. Pretty, 1913 - 1971.

Administrative / Biographical History

Ganwyd ac addysgwyd W. Ambrose Pretty yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn. Bu'n gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir Gwynedd am 49 mlynedd. Roedd yn brif glerc yr adran dd?r, 1946 - 1953. Rhwng 1953 a 1962 roedd yn gofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau, ac yna yn Gofrestrydd Arolygu a Swyddog Etholiadol, 1962 - 1980. Roedd Pretty yn cymryd diddordeb gweithgar yng ngwaith ei blwyf genedigol, ac yn glerc o Gyngor Plwyf Llanfairpwll, cadeirydd y clwb tenis, ac is-gadeirydd caeau chwarae'r plant. Roedd hefyd yn ysgrifennydd pwyllgor lleol Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Roedd yn aelod blaengar o gapel Rhosygad, trysorydd bwrdd cenhadol Presbyteraidd Môn ac ysgrifennydd cynorthwyol i Gymdeithas lles Pobol Anabl Môn. Casglodd rai papurau yn ymwneud a'i dad, Hugh J. Pretty (1871 - 1971), Llanfairpwllgwyngyll, peintiwr, addurnwr, papurwr ac ymgymerwr angladdau, oedd hefyd yn flaenllaw yng nghapel MC Rhosygad. Ei fab, David A. Pretty (ganwyd 1942) ydi awdur y gyfrol Two Centuries of Anglesey Schools, 1700 - 1902, ynghyd a chyfraniadau i drafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn.

Arrangement

Wedi eu trefnu fel a ganlyn: Darlithoedd ac erthyglau; Clwb Tenis Llanfairpwll; Cyngor Sir Ynys Môn; Cyngor Sir Gwynedd; Pwyllgor lleol Llanfairpwll, Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru; Sefydliad Coffa Llanfairpwll; Ysbyty C & A, Bangor: amrywiol; a papurau Hugh J. Pretty.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Acquisition Information

Adneuwyd gan: W. Ambrose Pretty, Llangefni, 1980.

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Other Finding Aids

Mae copiau caled o'r catalog ar gael yn Archifau Ynys Môn ac yn y Gofrestr Genedlaethol o Archifau. Polisi Archifau Ynys Môn ydi catalogio yn iaith y ddogfen / Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da / Good condition

Archivist's Note

Lluniwyd gan Annette Strauch ar gyfer project ANW. Defnyddiwyd y ffynhonell ganlynol i lunio'r disgrifiad hwn: Papurau Ambrose Pretty, Archifau Ynys Môn.

Appraisal Information

Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.

Accruals

Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected