CMA: Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Penrhyndeudraeth

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 NAZPEN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004246995
      (alternative) (WlAbNL)0000246995
  • Dates of Creation
    • 1936-1959
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • English Saesneg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (2 gyfrol)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestri priodas, 1936-1959.

Administrative / Biographical History

Cychwynnodd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth yn 1770 ac adeiladwyd capel yno yn 1777. Dyma'r ail gapel a adeiladwyd yn Sir Feirionnydd. Saif yr hen gapel gwreiddiol o fewn tafliad carreg i Nazareth. Defnyddiwyd yr hen gapel hyd 1815, pryd adeiladwyd capel newydd o'r enw Bethel mewn lle newydd. Gelwid yr ail gapel yn 'gapel canol' gan yr ardalwyr.
Cynyddodd y gynulleidfa yn dilyn y diwygiad dirwestol a bu'n rhaid adeiladu capel helaethach eto, lle mae'r capel presennol. Agorwyd ef ar 8 Mehefin 1839. Oherwydd bod dirwestaeth mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, oherwydd bwriadau'r holl drigolion fod yn Nasareaid, sef yn llwyrymwrthodwyr. Roedd hwn yn gapel mawr gyda lle i dri chant i eistedd. Rhoddwyd galeri ynddo yn 1860 ac fe'i hadnewyddwyd yn 1880. Yn 1900 codwyd ysgoldy ar gyfer plant yr Ysgol Sul. Mae'r Eglwys yn perthyn i Ddosbarth Gogledd Meirionnydd.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LLGC yn ddwy ffeil: cofrestri priodas, 1936-1945, a 1946-1959.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Cil-y-coed, Ffordd y Bermo, Dolgellau, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Note

Cychwynnodd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth yn 1770 ac adeiladwyd capel yno yn 1777. Dyma'r ail gapel a adeiladwyd yn Sir Feirionnydd. Saif yr hen gapel gwreiddiol o fewn tafliad carreg i Nazareth. Defnyddiwyd yr hen gapel hyd 1815, pryd adeiladwyd capel newydd o'r enw Bethel mewn lle newydd. Gelwid yr ail gapel yn 'gapel canol' gan yr ardalwyr.
Cynyddodd y gynulleidfa yn dilyn y diwygiad dirwestol a bu'n rhaid adeiladu capel helaethach eto, lle mae'r capel presennol. Agorwyd ef ar 8 Mehefin 1839. Oherwydd bod dirwestaeth mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, oherwydd bwriadau'r holl drigolion fod yn Nasareaid, sef yn llwyrymwrthodwyr. Roedd hwn yn gapel mawr gyda lle i dri chant i eistedd. Rhoddwyd galeri ynddo yn 1860 ac fe'i hadnewyddwyd yn 1880. Yn 1900 codwyd ysgoldy ar gyfer plant yr Ysgol Sul. Mae'r Eglwys yn perthyn i Ddosbarth Gogledd Meirionnydd.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2002

Lluniwyd gan Nia Mai Williams.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II, (Dolgellau, 1891); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III, (Dolgellau, 1928).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir yn LlGC gyfrifon y capel, 1866-1925 (CMA 1/15085-15086); cofnodion yr Ysgol Sul, 1868-1872 (NLW MSS 16311-16312C) a llyfryn yn ymwneud â'r gylchwyl lenyddol (CMA III/JZ/5). Ceir lluniau yn Mortimer PG 4137 a PG 4138, a John Thomas N15 a M51-52; a chynlluniau yn Mortimer PG 3929. Ceir hanes yr achos ym mhapurau Bob Owen Croesor, 25/45, 26/12. Mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1909, 1934 a 1971, hefyd yn LLGC.

Additional Information

Published