Mae grŵp 1983 yn cynnwys: dyddiaduron Caradog Prichard,1963-1980 (bylchog); gohebiaeth, yn cynnwys llythyrau, 1942-1946, oddi wrth Caradog at ei wraig Mati, tra'r roedd yn gwneud ei wasanaeth milwrol, llythyrau a negeseuon yn ei longyfarch ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962, llythyrau amrywiol,1954-1979, a gyfeiriwyd at Caradog Prichard, llythyrau o gydymdeimlad a dderbyniwyd ar farwolaeth Caradog Prichard yn 1980 a phapurau eraill yn ymwneud â'i farwolaeth; copïau o'i farddoniaeth, yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o'r tair cerdd a enillodd y Goron i Caradog Prichard yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1927, 1928 a 1929; dramâu a sgriptiau teledu a radio; gweithiau rhyddiaith ac anerchiadau a baratowyd gan Caradog Prichard, 1963-1977, yn cynnwys nifer heb ddyddiad; deunydd printiedig, 1921-1974, yn cynnwys llawer o dorion o'r wasg; papurau personol, yn cynnwys cyfrifon,1951-1981. Mae grŵp 1994 yn cynnwys: llythyrau, 1945, a ysgrifennodd Caradog Prichard at ei wraig Mati yn ystod ei gyfnod yn y fyddin yn New Delhi, llythyrau, 1946-1987, a anfonwyd at Mati Prichard, llythyrau, cardiau a thelegramau, 1940-1970, a anfonwyd at Caradog a Mati Prichard, cardiau post, 1929-1987, a anfonwyd at Caradog a Mati Prichard; cerddi, rhyddiaith ac anerchiadau yn bennaf gan Caradog Prichard; deunydd personol Caradog Prichard, 1927-1980; a deunydd personol ac amrywiol, 1926-1978, rhan ohono yn ymwneud â Mati Prichard = The 1984 group comprises: Caradog Prichard's diaries, 1963-1980 (with gaps); correspondence, including letters, 1942-1946, from Caradog Prichard to his wife Mati, during his period of military service, letters and messages congratulating him on winning the chair at the Llanelli National Eisteddfod in 1962, miscellaneous letters, 1954-1979, addressed to Caradog Pritchard, sympathy letters received on the death of Caradog Prichard in 1980 and other papers relating to his death; copies of his poetry, including English translations of the three poems which won the Crown for Caradog Prichard at the National Eisteddfodau of 1927, 1928 and 1929; plays and television and radio scripts; prose works and addresses prepared by Caradog Prichard, 1963-1977, including many undated; printed matter, 1921-1974, including many press cuttings; personal papers, including accounts, 1951-1981. THe 1994 group comprises: letters, 1945, from Caradog Prichard to his wife Mati during his army service at New Delhi, letters, 1946-1987, addressed to Mati Prichard, letters, cards and telegrams, 1940-1970, addressed to Caradog and Mati Prichard, postcards, 1929-1987, addressed to Caradog and Mati Prichard; poems, prose writings and addresses mainly by Caradog Prichard; Caradog Prichard's personalia, 1927-1980; and general personalia and miscellanea, 1926-1978, some concerning Mati Prichard.
Papurau Caradog a Mati Prichard,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 CARADOG
- Alternative Id.(alternative) vtls004622600
- Dates of Creation
- 1921-1982 /
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- 0.086 metrau ciwbig (3 bocs).
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Roedd Caradog Prichard (1904-1980) yn fardd a nofelydd o fri. Roedd yn frodor o Fethesda yn sir Gaernarfon a enillodd ei damaid fel newyddiadurwr yng Nghaernarfon, Llanrwst, Caerdydd ac, yn y pen draw, yn Llundain. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio fel newyddiadurwr ar y News Chronicle ac yn ddiweddarach ar y Daily Telegraph lle bu yn Is-olygydd Seneddol am gyfnod maith. Yn 1927, ac yntau yn 23 mlwydd oed, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, camp a gyflawnodd drachefn y ddwy flynedd ganlynol: Treorci (1928) a Lerpwl (1929). Roedd blas hunangofiannol i bob un o'r tair cerdd. Enillodd Caradog Prichard y Gadair, hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Cyhoeddodd tair cyfrol o'i farddoniaeth rhwng 1937 a 1963, a gwelodd argraffiad cyflawn o'i waith barddonol olau dydd yn 1979. Cyhoeddodd nofel bwysig o'r enw Un Nos Ola Leuad yn 1961, sydd yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn glasur ymhlith cynnyrch rhyddiaith Gymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyfrol o hunangofiant gonest, Afal Drwg Adda, yn 1973. Bu farw ar 25 Chwefror 1980 a'i gladdu ar Ddydd Gŵyl Ddewi ym mynwent Eglwys Coetmor, Bethesda.
Arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: grŵp 1983: dyddiaduron etc.; gohebiaeth; barddoniaeth; dramâu a sgriptiau radio a theledu; gweithiau rhyddiaith, anerchiadau etc.; deunydd printiedig; papurau personol, cyfrifon etc., a lluniau. Grŵp 1994: deunydd personol Caradog Prichard a deunydd personol cyffredinol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mati Prichard; Llundain; Pryniad; Tachwedd 1983
Ms Mari Prichard; Rhydychen; Rhodd; Medi 1994
Note
Roedd Caradog Prichard (1904-1980) yn fardd a nofelydd o fri. Roedd yn frodor o Fethesda yn sir Gaernarfon a enillodd ei damaid fel newyddiadurwr yng Nghaernarfon, Llanrwst, Caerdydd ac, yn y pen draw, yn Llundain. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio fel newyddiadurwr ar y News Chronicle ac yn ddiweddarach ar y Daily Telegraph lle bu yn Is-olygydd Seneddol am gyfnod maith. Yn 1927, ac yntau yn 23 mlwydd oed, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, camp a gyflawnodd drachefn y ddwy flynedd ganlynol: Treorci (1928) a Lerpwl (1929). Roedd blas hunangofiannol i bob un o'r tair cerdd. Enillodd Caradog Prichard y Gadair, hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Cyhoeddodd tair cyfrol o'i farddoniaeth rhwng 1937 a 1963, a gwelodd argraffiad cyflawn o'i waith barddonol olau dydd yn 1979. Cyhoeddodd nofel bwysig o'r enw Un Nos Ola Leuad yn 1961, sydd yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn glasur ymhlith cynnyrch rhyddiaith Gymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyfrol o hunangofiant gonest, Afal Drwg Adda, yn 1973. Bu farw ar 25 Chwefror 1980 a'i gladdu ar Ddydd Gŵyl Ddewi ym mynwent Eglwys Coetmor, Bethesda.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Mae copi caled o'r catalog 'Papurau Caradog a Mati Prichard' (1984 a 1994) ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein hefyd.
Archivist's Note
Medi 2006.
Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Papurau Caradog a Mati Prichard (1984 a 1994); The new companion to the Literature of Wales (Caerdydd, 1997);
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion ar wahân i rif 971 a dychwelwyd i Mari Prichard yn Ionawr 1995..
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published