Papurau gweinyddol Mudiad Ysgolion Meithrin, 1971-1996, yn cynnwys cofnodion, ffeiliau gohebiaeth, papurau cyllidol, a deunydd yn ymwneud â chyhoeddiadau, cyrsiau a digwyddiadau = Administrative papers, 1971-1996, of Mudiad Ysgolion Meithrin, including minutes, correspondence files, financial papers, and material relating to publications, courses and events.
Papurau ychwanegol yn perthyn i Fudiad Ysgolion Meithrin, gan gynnwys cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, 1971-1999; cofnodion Isbwyllgor Anghenion Arbennig, 1991-2005; cofnodion y Pwyllgor Cyhoeddi, 1975-1986; cofnodion is-bwyllgorau Ansawdd a Hyfforddiant, Cyllid a Staffio, Anghenion Arbennig, Cyhoeddusrwydd a Marchnata, 1991-1999; cofnodion y Bwrdd Cyfarwyddwyr Mabon a mabli, 1991-2003; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, 1986-1990 a 1991-1999; papurau gweinyddol; cofnodion Is-bwyllgor Polisi, 1994-2004; a cofnodion y Pwyllgor Gweithredol, 1979-1985; ynghyd â ffeil yn cynnwys ffotograffau a sleidiau. Nid yw'r casgliad hwn wedi ei gatalogio eto.
Archif Mudiad Ysgolion Meithrin,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 MUDYSGMEI
- Alternative Id.(alternative) vtls003844313(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1971-2018
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- 2.426 metrau ciwbig (209 bocs, 17 ffeil bocs); 4 bocs mawr (Medi 2009)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.
Arrangement
Trefnwyd yn naw grŵp: cyffredinol; gohebiaeth; gweinyddiaeth; pwyllgorau; ffeiliau dyddiol; cyrsiau/digwyddiadau; ariannol; cyhoeddiadau; a Rhodd Medi 2009.
Access Information
Mae ffeiliau C53-4 a C78-80 ar gau am 50 mlynedd o'r dyddiad olaf ym mhob ffeil; ac eithrio s40 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mr J. Bryan Jones, Cyfarwyddwr; Rhodd; Tachwedd 1989 a Chwefror 1996
Mr Hywel Wyn Jones, Cyfarwyddwr; Rhodd; Ebrill 1997
Ms Siwan Thomas; MYM, Aberystwyth; Rhodd; Medi 2009
Note
Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Archivist's Note
Mawrth 2003. Adolygwyd yn Ionawr 2020.
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Papurau Mudiad Ysgolion Meithin; gwefan Mudiad Ysgolion Meithrin, mis Mawrth 2003; Stevens, Catrin, Meithrin: hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996 (Llandysul, 1996).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
Bibliography
Stevens, Catrin, Meithrin: Hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996 (Llandysul, 1996).
Additional Information
Published