Y gyfrol gyntaf mewn cyfres o chwech yn cynnwys adysgrifau o bregethau ar y Testament Newydd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, wedi eu copïo yn nhrefn y Beibl. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys pregethau ar Efengyl Mathew ac fe'i cwblhawyd ar 5 Tachwedd 1760 (t. 1244). = The first volume in a series of six containing transcripts of sermons on the New Testament by the Rev. Griffith Jones of Llanddowror, transcribed in Bible order. This volume contains sermons on the Gospel of St Matthew and was completed on 5 November 1760 (p. 1244).
Mae'r gyfrol wedi ei ysgrifennu mewn dwy law: mae'r rhestr cynnwys anghyflawn (ff. ii-iii) a nifer o gywiriadau ac arnodiadau yn y testun yn llaw'r Parch. Thomas Evans, curad Llanddowror a rheithor Walton, sir Benfro; ni adnabuwyd copïwr y prif destun (tt. 35-1244) gan y catalogydd. O'r 93 pregeth a gopïwyd i'r gyfrol yn wreiddiol (gw. y nodyn y tu mewn i'r clawr blaen) erbyn hyn mae pump, gan gynnwys y cyntaf, yn anghyflawn, ac mae un ar goll yn gyfan gwbl (tt. 476-[486]). = The volume is in two hands: the incomplete table of contents (ff. ii-iii) and a number of corrections and annotations to the text are in the hand of the Rev. Thomas Evans, curate of Llanddowror and rector of Walton, Pembrokeshire; the scribe of the main body of the text (pp. 35-1244) has not been identified by the cataloguer. Of the 93 sermons originally transcribed in the volume (see note inside front cover) five are now incomplete, including the first, and one is missing in its entirety (pp. 476-[486]).
Pregethau Griffith Jones, Llanddowror
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NLW MS 24057B
- Alternative Id.(alternative) vtls006737646
- Dates of Creation
- 1760
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, peth Saesneg.
- Physical Description
- iv, 600 ff. (tudaleniad gwreiddiol 35-474, 487-790, 793-1244 gyda gwallau; 2 ddalen ychwanegol ar ôl tt. 216 a 228; ff. i-ii wedi eu camleoli, dylent fod ar ddiwedd y gyfrol) ; 200 x 155 mm.
Ail-rwymwyd ac ail-gefnwyd y gyfrol mewn chwarter lledr yn LlGC, 2016, gan gadw'r bwrdd uwch gwreiddiol a gweddillion y clasbiau; 'W[E]LC[H] MA[NU]SCR[IPT] SE[R]MO[NS] I' mewn aur ar y meingefn gwreiddiol.
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Access Information
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Madoc Books; Llandudno; Pryniad; Mai 2014; 006737646.
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Preferred citation: NLW MS 24057B.
Ceir y teitl 'Trysor o Ddifinyddiaeth' ar wynebddalennau cyfrolau eraill yn y gyfres (NLW MS 24B, NLW, CMA 8326 (i-ii), Caerdydd, Llyfrgell Ganolog MS 2.1103).
Physical Characteristics and/or Technical Requirements
Wynebddalen yn eisiau; dalennau ar goll cyn f. iii ac ar ôl f. iv; tt. 1-34, 475-486, 791-792 ar goll. Bwrdd îs gwreiddiol a bron i gyd o'r rhwymiad lledr gwreiddiol wedi ei golli; gweddillion y meingefn gwreiddiol wedi'i hepgor wrth drwsio'r gyfrol yn 2016; ymylon rhai dalennau yn fregus, gyda mân rwygiadau yma ac acw; trwsiwyd rhai o'r rhain yn 2016; wedi'i heffeithio gan leithder a chan inc mewn mannau.
Archivist's Note
Ionawr 2017.
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys M. Jones.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Custodial History
Mae arnodiadau ar tt. 191 ac 835, sydd yn cofnodi lleoedd a dyddiadau (1810, 1814), yn yr un llaw a nodiadau cyffelyb yn NLW MS 5920A.
Additional Information
Published