Yr ohebiaeth, heb os, yw calon y casgliad yma. Roedd Ifor Williams yn lythyrwr mawr. Mae cewri'r byd academaidd a llenyddol yng Nghymru yn gohebu ag ef ynghyd â gwyr Prifysgol ac arbenigwyr astudiaethau Celtaidd ledled Ewrop e.e. J. Gwenogvryn Evans, Kenneth Jackson, Rachel Bromwich, Idris Foster. Mae'r ohebiaeth yn adlewyrchu bywyd academaidd, bywyd cymdeithasol a bywyd personol yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ceir yma, gip olwg ar faterion llosg y dydd, yn ei filltir sgwar, yng Nghymru, ac ymhellach. Mae'r llythyrau ato oddi wrth fechgyn ifanc Cymru yn y Rhyfel Mawr yn dyst i'r golled fawr brofodd y wlad; ac yn ystod cyfnod yr ail Ryfel Byd gwelwn, yn y llythyrau oddi wrth Max Forster a Pokorny, fel y cafodd y byd academaidd ei gyffwrdd yn uniongyrchol gan Hitler a'i Natsïaid.
Yn y casgliad hefyd, ceir papurau sy'n perthyn i gyfnod cynharach, cyfnod y bardd, Robert ap Gwilym Ddu. Ni ellir egluro presenoldeb y dogfennau hyn ymysg papurau personol Ifor Williams, ond gellir tybio i rywun a fu'n gweithio arnynt eu trosglwyddo iddo, er eu diogelwch, a diolch am hynny.