Papurau a grynhowyd gan y llyfrwerthwr David Hughes, Llandudno (m. 1999), gŵr y rhoddwraig, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Rachel Bromwich, 1983-4; Joseph Clancy, 1961; Aneirin [Talfan Davies], heb ddyddiad; Gareth Alban Davies, 1995; Dr Noëlle Davies, 1954 a 1959; T. I. Ellis, 1962; Meredydd Evans, 1980; Robert Evans ('Cybi'), heb ddyddiad; Richard Griffith ('Carneddog'), 1927; Dafydd Jenkins, 1997; Bedwyr Lewis Jones, heb ddyddiad; Albert Evans-Jones ('Cynan'), 1940; Dr Emyr Wyn Jones, 1981-97; J. Tysul Jones, 1979-83; Timothy Lewis, 1932; D. Tecwyn Lloyd, 1986; E. G. Millward, 1977; Derec Llwyd Morgan, 1983; Dyfnallt Morgan, 1990; Iorwerth Peate, 1958; y Parch. W. Rhys Nicholas, 1967 a heb ddyddiad; Brynley F. Roberts, 1997; Gomer M. Roberts, 1973-84; Prosser Rhys, 1944; Ian Skidmore, heb ddyddiad; Gwyn Thomas, 1969; A. H. Williams, 1967 a 1980; y Fonesig Amy Parry-Williams, 1986; yr Athro J. E. Caerwyn Williams, heb ddyddiad; John Roberts Williams, 1987; ynghyd â chylchlythyr, 1919, yn dwyn enw David Lloyd George, yn mynegi'i ddiolch i aelodau tribiwnlysoedd a fu'n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; ceir hefyd nodiadau bywgraffyddol, 1984, am y Gwir Barchedig Gwynfryn Richards a luniwyd ganddo ef ei hun; a rhestr o lyfrau, heb ddyddiad, o lyfrgell yr Archesgob Gwilym O. Williams.
Papurau David Hughes, Llandudno, Papers,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NLW ex 2036.
- Alternative Id.(alternative) vtls004158986(alternative) (WlAbNL)0000158986
- Dates of Creation
- 1919-1990s
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg yn bennaf.
- Physical Description
- 1 folder
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Access Information
Dim gwaharddiad
Acquisition Information
Rhodd gan / Donated by Mrs E. Hughes, Llandudno, Tachwedd / November 1999; A1999/154.
Note
Preferred citation: NLW ex 2036.
Conditions Governing Use
Deddfau hawlfraint arferol yn berthnasol
Accruals
Dim rhagor i ddod.
Additional Information
Published