Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).
Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NANTGWRTH
- Dates of Creation
- [1974]-[2010]
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Danish French Scottish Gaelic Breton Romanian English Slovenian Cymraeg a Saesneg
- Physical Description
- 41 o focsys
Scope and Content
Arrangement
Trefnwyd yn ôl y drefn wreiddiol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Dr Carl Iwan Clowes, Pentraeth, Môn; Rhodd; Gorffennaf 2018
Note
Seilir teitl y catalog ar gynnwys yr archif.
Mae rhai papurau yn y casgliad sy'n cynnwys data sensitif wedi cael eu golygu, a gynrychiolir gan dudalennau porffor.
Archivist's Note
Tachwedd 2018
Catalogwyd gan Lucie Hobson a David Moore.
Conditions Governing Use
Mae'r cyfreithiau hawlfraint arferol yn perthyn.
Appraisal Information
Cedwir pob cofnod a drosglwyddwyd i LlGC.
Custodial History
Cadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth, dan ofal Dr Carl Iwan Clowes, hyd at eu trosglwyddo i'r Llyfrgell.
Accruals
Disgwylir croniadau.
Additional Information
Published
Minimal
Draft
GB 0210 NANTGWRTH