CMA: Cofysgrifau Eglwys Libanus, Y Borth

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 LIBORT
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004239648
      (alternative) (WlAbNL)0000239648
  • Dates of Creation
    • 1895-1958
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.018 medrau ciwbig (9 cyfrol)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion a chyfrifon yr eglwys, 1895-1958, llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1933-1941, a chofnodion y Gymdeithas Ddrama, 1948-1953.

Administrative / Biographical History

Credir i'r achos Methodistaidd yn y Borth gychwyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn 1803 neu 1806. Arferid galw capel Libanus yn 'Capel y morwyr' a chredir iddo ar un adeg fod â naws mwy Seisnig yn perthyn iddo nag a berthynai i gapel Soar yn yr un pentref. Yn 1969, ymunodd Soar â Libanus ac ail-enwyd Libanus yn Gerlan.

Arrangement

Trefnwyd yn LLGC yn chwe chyfres: llyfrau taliadau gweinidogaethol, llyfrau casgliad y weinidogaeth, llyfrau derbyniadau a thaliadau, llyfrau cofnodion cyfarfodydd swyddogion, llyfrau ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a llyfrau cofnodion y Gymdeithas Ddrama.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan y Parch. Elwyn Pryse, Bow Street, Tachwedd 2001.

Note

Credir i'r achos Methodistaidd yn y Borth gychwyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn 1803 neu 1806. Arferid galw capel Libanus yn 'Capel y morwyr' a chredir iddo ar un adeg fod â naws mwy Seisnig yn perthyn iddo nag a berthynai i gapel Soar yn yr un pentref. Yn 1969, ymunodd Soar â Libanus ac ail-enwyd Libanus yn Gerlan.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

-- Mai 2002

Lluniwyd gan Ifan Prys.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Roberts, Gomer Morgan (gol.), Hanes Methodistiaid Calfinaidd Cymru, cyf. II (Caernarfon, 1978); cronfa ddata Capeli Cymru, LlGC, ynghyd â gwybodaeth gan y Parch. Elwyn Pryse.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl

Related Material

Ceir cofrestr bedyddiadau, 1810-1837, yn yr Archifdy Gwladol, RG4/3813 (copi microffilm yn LLGC). Ceir cofrestr bedyddiadau, 1866-1917, yn CMA 1/18286; cofrestr bedyddiadau, 1920-66, yn CMA III EZ1/361/1; cofrestr aelodau, 1926-1965, 1968, 1981, a chofrestr marwolaethau, 1927-1966, yn CMA III EZ1/361/2, a llythyrau symud aelodaeth i Libanus o eglwysi eraill yn CMA III EZ1/361/3, y cyfan yn LlGC. Cedwir adroddiadau blynyddol, 1949-1951, 1963-1972, 1981 ac 1996, hefyd yn LlGC.

Additional Information

Published