Papurau'r nofelydd a'r dramodydd llenyddol Eigra Lewis Roberts, [1965]-[2014], yn cynnwys drafftiau llawysgrif ar gyfer y gyfres ddrama deledu 'Minafon'; teipysgrifau addasiadau o nofelau Elena Puw Morgan, Y Wisg Sidan a Y Graith; sgript y ffilm deledu ar O. M. Edwards; sgyrsiau radio; adolygiadau, teipysgrifau o rai o'i llyfrau gan gynnwys Fy Hanes i: Streic: Dyddiadur Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 1899-1903. = Papers of the novelist and dramatist Eigra Lewis Roberts, [1965]-[2014], including manuscript drafts of the television drama series 'Minafon'; typescript adaptations of novels by Elena Puw Morgan namely Y wisg sidan [The silk gown] and Y graith [The scar]; script of the television film about O. M. Edwards; radio talks; book reviews and typescripts of some of her books including the diary of Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 1899-1903.
Papurau Eigra Lewis Roberts
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 EIGRALEW
- Alternative Id.(alternative) 99906943802419
- Dates of Creation
- [1965]-[2014]
- Name of Creator
- Physical Description
- 0.045 metrau ciwbig (5 bocs)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Mae Eigra Lewis Roberts yn nofelwraig a dramodydd. Fe’i ganwyd ar 7 Awst 1939 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968, y tlws drama yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 a’r Goron yn Eistedddfod Genedlaethol Abertawe 2006 am gasgliad o gerddi am Sylvia Plath.
Addaswyd dwy o nofelau Elena Puw Morgan gan Eigra Lewis Roberts ar gyfer y teledu. Yn 1996 enillodd wobr Bafta am y sgriptiwr gorau am Y Wisg Sidan. Cafodd ei hanrhydeddu gyda gradd MA am ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Eigra: Hogan Fach o'r Blaena gan Wasg y Bwthyn yn 2021.
Arrangement
Trefnwyd yn naw cyfres.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Eigra Lewis Roberts; Dolwyddelan; Rhodd; Rhagfyr 2018; 99906943802419.
Note
Mae Eigra Lewis Roberts yn nofelwraig a dramodydd. Fe’i ganwyd ar 7 Awst 1939 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968, y tlws drama yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 a’r Goron yn Eistedddfod Genedlaethol Abertawe 2006 am gasgliad o gerddi am Sylvia Plath.
Addaswyd dwy o nofelau Elena Puw Morgan gan Eigra Lewis Roberts ar gyfer y teledu. Yn 1996 enillodd wobr Bafta am y sgriptiwr gorau am Y Wisg Sidan. Cafodd ei hanrhydeddu gyda gradd MA am ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Eigra: Hogan Fach o'r Blaena gan Wasg y Bwthyn yn 2021.
Archivist's Note
Tachwedd 2021.
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Additional Information
Published