Mae'r archif yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwahanol agweddau o fywyd proffesiynol yr Athro Stephen Joseph Williams, sef papurau'n ymwneud â'i ddyletswyddau cyhoeddus, ei swyddogaeth fel golygydd, ei waith ieithyddol a gramadegol, adolygiadau, papurau'n ymwneud â'i waith ysgrifenedig ei hun a llythyrau gan amryw ohebwyr yn bennaf yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol. Ceir hefyd rhai papurau personol, megis papurau'n ymwneud â'i yrfa yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau teuluol.
Papurau ychwanegol yn perthyn i'r Athro Stephen J. Williams. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau'r Athro Stephen J. Williams
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 STEJWI
- Alternative Id.(alternative) vtls004204272(alternative) (WlAbNL)0000204272
- Dates of Creation
- [1896]-[1992]
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg
- Physical Description
- 12 amlen, 4 cyfrol; + 1 bocs mawr ac 1 bocs bychan (Medi 2005); + 1 bocs bychan (Mai 2008).
Scope and Content
Arrangement
Mae'r casgliad wedi ei drefnu yn ddau grŵp: papurau proffesiynol a phapurau personol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Prynwyd y papurau oddi wrth Siop Lyfrau'r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, Chwefror 2001. Daeth grŵp arall yn rhodd gan Mrs Ann Rhys William, Rhyl, Medi 2005 a Mai 2008.; B2001/4, 0200510495
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn LLGC.
Archivist's Note
Tachwedd 2001.
Lluniwyd gan Nia Wyn Griffiths.
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).
Appraisal Information
Action: Cadwyd holl bapurau Stephen J. Williams a brynwyd gan y Llyfrgell..
Custodial History
Yn ôl pob tebyg, daeth y papurau i feddiant perchennog Siop Lyfrau'r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, o lyfrgell Stephen J. Williams. Trefnwyd y papurau wedi iddynt gyrraedd y Llyfrgell.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published