CMA: Cofysgrifau Capel Newydd Llanddarog

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 LLANDD
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004240775
      (alternative) (WlAbNL)0000240775
  • Dates of Creation
    • 1855-1997
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg
  • Physical Description
    • 0.353 metrau ciwbig (7 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofnodion Capel Newydd Llanddarog, yn cynnwys cofrestri eglwysig, 1960-1977, cyfraniadau ariannol yr aelodau, 1900-1995, gohebiaeth yr ysgrifennydd, 1963-1997, ystadegau blynyddol, 1909-1995, a chyfrifon a chytundebau, 1855-1982. Ceir hefyd gofrestrau'r Ysgol Sul, 1976-1995, a mantolenni ariannol yr Ysgol Sul, 1959-1980.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr achos yn Llanddarog yn 1795, sef blwyddyn codi'r capel cyntaf. Ailadeiladwyd capel ym 1848, ac fe adnewyddwyd hwnnw ym 1903 ac 1949. Bu'n fam-eglwys i Gapel y Ddôl, Llanarthne a sefydlwyd c. 1815. Enwyd y capel yn Seion ond fe'i adwaenir fel Capel Newydd. Mae'n perthyn i Ddosbarth Llanddarog, Henaduriaeth De Myrddin.

Arrangement

Trefnwyd yn ddau grŵp: cofnodion y Capel a chofnodion yr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd ar ran y capel gan Mr Omri Griffiths, Penybont, Ebrill 2002.; 0200204571

Note

Sefydlwyd yr achos yn Llanddarog yn 1795, sef blwyddyn codi'r capel cyntaf. Ailadeiladwyd capel ym 1848, ac fe adnewyddwyd hwnnw ym 1903 ac 1949. Bu'n fam-eglwys i Gapel y Ddôl, Llanarthne a sefydlwyd c. 1815. Enwyd y capel yn Seion ond fe'i adwaenir fel Capel Newydd. Mae'n perthyn i Ddosbarth Llanddarog, Henaduriaeth De Myrddin.

Seiliwyd y teitl ar gynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

Chwefror 2004

Lluniwyd y catalog gan Maredudd ap Huw a Nia Mai Williams.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Morris, J., Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin (Dolgellau,1911); V. J. Hodge, The History of Llanddarog Village and Parish (Carmarthen, 1994); Hanes ac atgofion aelodau am Gapel Newydd Llanddarog ar achlysur dathlu daucanmlwyddiant yr achos 1795-1995 [Llanddarog, 1995]; a 'Hanes Capel Newydd Llanddarog' gan y Parch. E. Dewi Davies [1951] (LLGC, CMA H76/4/6.)

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir adroddiadau blynyddol y capel, 1943-1994 (gyda bylchau) yn LlGC, a hanes y Capel yn LLGC, CMA H76/4/6. Ceir cofrestri, 1815-1836, yn yr archifdy gwladol a chopïau microffilm yn LLGC (NPR Rîl 11/3862 (vii)). Ceir cynlluniau o'r capel, 1925, yn archifdy sirol Caerfyrddin.

Additional Information

Published