'Yr Aipht' : : Pryddest,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 NLW MS 16674D.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004437877
  • Dates of Creation
    • [1884x1898] /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 105 ff. ; 309 x 244 a llai.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Pryddest yn dwyn y teitl 'Yr Aipht' gan ac yn llaw Edward Ffoulkes, sef yr ymgais fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1884, ynghyd â drafftiau o'r un gwaith a thystysgrif enillydd; llythyr, dyddiedig 12 Ebrill 1885, oddi wrth Edward Ffoulkes at Alfred, Arglwydd Tennyson, ynghyd ag ateb Tennyson, dyddiedig 15 Ebrill 1885, a llythyr, dyddiedig 17 Hydref 1885, oddi wrth y Parch. Henry Griffith, Ventnor, Ynys Wyth at Edward Ffoulkes, ynghyd ag ateb Ffoulkes, dyddiedig 24 Hydref 1885; anerchiadau yn llaw Edward Ffoulkes ar '[William] Wordsworth' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Moriah, Caernarfon, d.d.), ar 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (i'w draddodi yng Nghymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, 10 Chwefror 1891, ynghyd â thoriad o'r Cymro, dyddiedig 5 Chwefror 1891, yn cyfeirio at y digwyddiad), ac ar 'Dadblygiad' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Capel Coch, Llanberis, 26 Ionawr 1898) = An autograph pryddest entitled 'Yr Aipht' by Edward Ffoulkes, the winning entry in the National Eisteddfod held at Liverpool, 1884, together with rought drafts of the same work and a winner's certificate; a letter, dated 12 April 1885, from Edward Ffoulkes to Alfred, Lord Tennyson, together with Tennyson's reply, dated 15 April 1885, and a letter, dated 17 October 1885, from the Rev. Henry Griffith, Ventnor, Isle of Wight, to Edward Ffoulkes, together with Ffoulkes's reply, dated 24 October 1885; addresses in the hand of Edward Ffoulkes on '[William] Wordsworth' (to be delivered at Moriah Literary Society, Caernarfon, n.d.), on 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (to be delivered at the Liverpool Welsh National Society, 10 February 1891, together with a cutting from Y Cymro dated 5 February 1891, relating to the event), and on 'Dadblygiad' ['Development'] (to be delivered at Capel Coch Literary Society, Llanberis, 26 January 1898).
Ceir cyfeiriadau at Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight ((f. 61 recto-verso) ac eraill = There are references to Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight (f. 61 recto-verso) and others.

Arrangement

Trefnwyd yn nhrefn amser yn LlGC.

Access Information

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Annie Ffoulkes, merch Edward Ffoulkes; Caernarfon; Rhodd; Mehefin 1958

Note

Teitl seiliedig ar y cynnwys.

Preferred citation: NLW MS 16674D.

Archivist's Note

Tachwedd 2006.

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifans;

Related Material

Gweler hefyd Almanac Cymraeg Lerpwl = Liverpool Welsh annual, 1885, yn cynwys enwau holl fuddugwyr Eisteddfod Lerpwl, 1884, ... [ynghyd â] nodiadau beirniadol ar yr Eisteddfod ... I. Foulkes (Liverpool), [?1885].

Additional Information

Published

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales