Mae'r fonds yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif o rai o gyfrolau a sgriptiau Angharad Tomos, 1986-1997, gan gynnwys dau ddarn sylweddol o waith anghyflawn ac anghyhoeddedig. Ceir un ffolder o'i herthyglau ar gyfer Y Faner a Tafod y Ddraig, 1979-1983, ac un ffolder yn cynnwys ei darlithoedd a'i hareithiau cyhoeddus, 1996-1998. Mae'r llawysgrifau, ar brydiau, yn cynnwys nodiadau ar y broses o greu a sylwadau rhai aelodau o'i theulu ar ei gwaith, ynghyd ag ychydig o ohebiaeth berthynol. Nid yw'r archif yn gyflawn. Gwerthwyd llawysgrifau llawer o'i llyfrau cynharaf yn arwerthiannau blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n golygu eu bod bellach mewn dwylo preifat. Ffeiliau unigol o gyfnodau penodol sydd yma o'i herthyglau i'r wasg, a'i hareithiau a'i darlithoedd, ac un llyfr nodiadau ar gyfer cyfnod yn awdur preswyl mewn ysgolion cynradd ym Mro Dysynni. Nid yw'r archif yn cynnwys unrhyw ohebiaeth bersonol. Gall yr archif hon fod o ddiddordeb neilltuol i ysgolheigion sy'n astudio gwaith Angharad Tomos a'r mudiad iaith yng Nghymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.
Tri chopi draft o'r nofel 'Rhagom' gan Angharad Tomos, 2004-05. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol y rhoddwr, yn cynnwys gwaith ymchwil ar gyfer ei nofelau 'Wrth fy Nagrau i' (Hydref 2007) a 'Rhagom'; papurau yn ymwneud â rhaglen radio i blant, a thair drama, hefyd i blant, gan gynnwys Pasiant y Plant, 2005; a phapurau a deunyddiau yn ymwneud â Rwdlan, gan gynnwys copïau o gyfieithiadau o'r gwaith i Aeleg yr Alban a Gwyddeleg. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Pecyn o bapurau ychwanegol yn ymwneud gan mwyaf â gweithiau Angharad Tomos, 'Rhagom', 2002, ac 'Wrth fy Nagrau', 2006. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol Angharad Tomos, gan gynnwys nodiadau ar gyfer Pan Rodiwn Rhyw Fore Ddydd - ar gyfer cystadleuaeth Daniel Owen, 2008 (nofel nas cyhoeddwyd), ac erthyglau'r rhoddwr o'r Herald, 1993-1999 a 2002-2007. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol o waith, a phapurau wedi eu casglu ynghyd gan Angharad Tomos, gan gynnwys dyddiaduron; gohebiaeth; torion o'r wasg; gweithiau cynnar, 1972-1990 (a gyhoeddwyd mewn cylchgronau) ;storiau i'r BBC; papurau yn ymwneud â Rala Rwdins; a gweithiau gwreiddiol. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.
Papurau Angharad Tomos
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 ATOMOS
- Alternative Id.(alternative) vtls004199786(alternative) (WlAbNL)0000199786
- Dates of Creation
- 1979-1998
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg
- Physical Description
- 0.063 metrau ciwbig (23 ffolder, 1 bwndel, 1 gyfrol); 3 bocs mawr; 8 bocs bychan (Rhagfyr 2011)
Scope and Content
Arrangement
Trefnwyd yn bum grŵp: cyfrolau; sgriptiau; erthyglau; areithiau a nodiadau.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Rhodd gan Angharad Tomos, Pen-y-groes, Caernarfon, Ebrill 2001, Chwefror a Medi 2007, Gorffennaf 2008, Chwefror 2010 a Rhagfyr 2011.; A2001/24
Archivist's Note
Tachwedd 2001
Lluniwyd y rhestr gan R. Arwel Jones.
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).
Conditions Governing Use
Mae'r hawlfraint yn eiddo i Angharad Tomos, Pen-y-groes, Gwynedd, Ebrill 2001.
Custodial History
Cadwyd y drefn a roddwyd ar yr archif gan yr awdur cyn iddi gyrraedd y Llyfrgell.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn debygol.
Additional Information
Published