Llyfryn: Rhestr Testunau Gwyl Genedlaethol Cerdd Dant Cymru yn neuadd Ysgol Eilradd, Llangefni

This material is held atArchifau Ynys Môn / Anglesey Archives

  • Reference
    • GB 221 WM214
  • Alternative Id.
      GB 221 WM/214
  • Dates of Creation
    • 1961
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg
  • Physical Description
    • 1 eitem

Scope and Content

Llyfryn: Rhestr Testunau Gwyl Genedlaethol Cerdd Dant Cymru yn neuadd Ysgol Eilradd, Llangefni.

Administrative / Biographical History

Mae’r grefft o ddatgan barddoniaeth i gyfeiliant telyn, ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r union ffurf honno wedi hen fynd ar goll yn niwloedd y gorffennol, ac ni allwn ond dyfalu sut yn union yr oedd canu gyda’r tannau yn swnio ganrifoedd lawer yn ôl. Gwahanol iawn i heddiw, bid siwr. O ddechrau’r ugeinfed ganrif y daw’r recordiadau sain cynharaf o ganu cerdd dant, ac mae hyd yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant yr unfed ganrif ar hugain.

Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw `chwaith yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad. Mae’r delyn wedi chwarae rhan amlwg yn nhraddodiad cerddorol pob un o’r cenhedloedd Celtaidd. Yr hyn sy’n arbennig ynglyn â’r traddodiad Cymreig efallai yw’r berthynas glòs a ddatblygodd rhwng ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mewn cerdd dant, mae’r ddwy elfen yn gwbl annatod. Ar y geiriau y mae’r pwyslais, fodd bynnag: cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a datgan y geiriau yn glir ac effeithiol yw’r nod bob amser. Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad ar un adeg – a cheir awgrym fod y person hwnnw, yn aml iawn, hefyd yn fardd. Roedd hi felly yn grefft arbenigol iawn, yn gyfyngedig i lysoedd y tywysogion a’r uchelwyr. Ond wedi i oes aur y tywysogion a’r uchelwyr Cymreig ddod i ben, fe gymerwyd yr awenau o dipyn i beth gan y werin bobl.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Acquisition Information

Adnau preifat / Private deposit.

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Other Finding Aids

Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da / Good condition

Archivist's Note

Lluniwyd y disgrifiad gan Helen Lewis, Archifdy Ynys Môn.

http://cerdd-dant.org/y-dechreuadau.html

Appraisal Information

Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.

Accruals

Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected