Copi o gyfrol Peter Williams, Mynegeir Ysgrythurol; neu, Ddangoseg Egwyddorol o'r Holl Ymadroddion yn yr Hen Destament a'r Newydd (Caerfyrddin, 1773, ESTC T116289, Libri Walliae 5397), gyda nodiadau pregeth byr, yn Saesneg, yn llaw [y Parch.] Edmund Leigh, Llanedi, ar y dail rhwymo, [18 gan., ¼ olaf]-[c. 1810] (ff. 2 recto-verso, 4, 5), yn ogystal ac emyn Gymraeg tri phennill, yn cychwyn 'Fy lle pan welwy draw', wedi ei lofnodi gan Leigh a'i ddyddio 'Llannedy July the 2nd 1793' (f. 5 verso). = A copy of Peter Williams, Mynegeir Ysgrythurol; neu, Ddangoseg Egwyddorol o'r Holl Ymadroddion yn yr Hen Destament a'r Newydd (Carmarthen, 1773, ESTC T116289, Libri Walliae 5397), containing brief sermon notes, in English, in the hand of [the Rev.] Edmund Leigh, Llanedi, on the fly-leaves, [late 18 cent.]-[c. 1810] (ff. 2 recto-verso, 4, 5), together with a three verse Welsh hymn, beginning 'Fy lle pan welwy draw', signed by Leigh and dated 'Llannedy July the 2nd 1793' (f. 5 verso).
Mae'r nodiadau yn bennaf ar y testun pechod, gan gyfeirio at Job 42.5-6 (f. 2) a Genesis 42.36 a 45.8 (f. 4). Cyhoeddwyd yr emyn yn Diferion y Cyssegr: Sef Crynodeb o Hymnau a Chaniadau Ysbrydol o Waith Amrywiol Awdwyr (Caerlleon, 1802) (emyn rhif 115) ac yn Casgliad o Hymnau … at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1845) (emyn 635, gyda'r teitl 'Ofnau'n ffoi') ond ni enwir yr emynydd yn y nail na’r llall. Ceir ambell i fân gywiriad ac ymylnod, mewn inc a phensil, i'r testun printiedig (ff. 9 verso, 23, 30, 60, 71, 92 verso, 119 verso, 132, 147, 179, 201 verso). = The notes are mainly on the subject of sin, with reference to Job 42.5-6 (f. 2) and Genesis 42.36 and 45.8 (f. 4). The hymn was collected in Diferion y Cyssegr: Sef Crynodeb o Hymnau a Chaniadau Ysbrydol o Waith Amrywiol Awdwyr (Caerlleon [i.e. Chester], 1802) (hymn No. 115) and in Casgliad o Hymnau … at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1845) (hymn No. 635, entitled 'Ofnau'n ffoi'), in neither of which is the hymn-writer named. There are a few minor corrections and marginal annotations, in ink and pencil, to the printed text (ff. 9 verso, 23, 30, 60, 71, 92 verso, 119 verso, 132, 147, 179, 201 verso).
Pregethau'r Parch. Edmund Leigh
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NLW MS 24124C.
- Alternative Id.(alternative) 99885035902419
- Dates of Creation
- 1773-[c. 1810]
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- i, 203 ff. ; 250 x 195 mm.
Lledr dros fyrddau; 'MYNEGEIR' a llinellau sengl (mewn aur ar y meingefn).
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Access Information
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Ms Glenys Lloyd; Maidstone; Rhodd; Awst 2018; 99885035902419.
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Physical Characteristics and/or Technical Requirements
Ymylon tudalennau wedi eu tocio wrth [?ail-]rwymo, gan golli rhannau o'r testun ar ff. 2, 4-5. Un ddalen wedi ei thynnu allan rhwng ff. 5 a 6; tipiwyd hon yn ôl mewn i'r gyfrol, lle mae nawr yn f. 3. Rhwymiad wedi'i drwsio yn LlGC, 2019.
Archivist's Note
Mehefin 2019.
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Custodial History
'Ex Libris Edm Leigh...' (inc ar f. 8); 'EDM LEIGH N44/365' (rhif silff ar f. 6); 'This Book I bought of the Revd Peter Williams 1775, Edmund Leigh', gyda rhyngosodiad diweddarach 'Which I give to my son Daniel Leigh', a nodyn ar enedigaeth Eleanor Leigh ar 17 Chwefror 1816, yn llaw ei thad bedydd William Pugh (inc ar f. 3); 'Y Llyfr hwn a dderbyniais gan fy nain Jane Williams fel anwyl goffadwriaeth am dani. Edmund Hugh Leigh Pierce Tach[wedd] 24ain / [19]12' (inc ar f. 1; mae'n debyg fod Jane Williams yn ferch i Nathaniel Leigh (g. 1787), un o feibion Edmund Leigh, ac yn chwaer i'r Eleanor Leigh a enwir uchod).
Additional Information
Published