Papurau Dewi Stephen Jones

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 DEWSONES
  • Alternative Id.
      (alternative) 99988706602419
  • Dates of Creation
    • 1980-2019
  • Name of Creator
  • Physical Description
    • 1 bocs mawr, 1 bocs bach (0.038 metrau ciwbig)

Scope and Content

Papurau'r bardd Dewi Stephen Jones, 1980-2019, yn cynnwys drafftiau o gerddi, llythyrau oddi wrth Anne Stevenson, Bobi Jones ac Alan Llwyd, ynghyd â theyrngedau a roddwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth yn 2019. = Papers of the poet Dewi Stephen Jones, 1980-2019, including letters from Anne Stevenson, Bobi Jones and Alan Llwyd, together with tributes on his death.

Administrative / Biographical History

Yr oedd Dewi Stephen Jones yn fardd a beirniad a oedd yn hanu o’r Ponciau, Rhosllannerchrugog, ac yn fab i Stephen a Lottie Jones. Ganwyd ef yn 1940. Enillodd Wobr Griffith John Williams yn 1995 am ei gyfrol o farddoniaeth Hen ddawns (1993). Lluniodd ddwy astudiaeth ar farddoniaeth Bobi Jones yn y gyfres Llên y Llenor ac roedd yn cyfrannu’n gyson i gylchgrawn Barddas ac eraill. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o farddoniaeth Ffynhonau uchel yn 2012. Bu farw ar 14 Ionawr 2019.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn ddwy gyfres: Rhodd Gorffennaf 2019 a Rhodd Hydref 2019.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Ms Jenifer Jones (cyfneither); Wrecsam; Rhodd; Gorffennaf 2019; 99988706602419.
Mr John Elwyn Davies (cefnder); Penbedw; Rhodd; Hydref 2019; 99988706602419.

Note

Yr oedd Dewi Stephen Jones yn fardd a beirniad a oedd yn hanu o’r Ponciau, Rhosllannerchrugog, ac yn fab i Stephen a Lottie Jones. Ganwyd ef yn 1940. Enillodd Wobr Griffith John Williams yn 1995 am ei gyfrol o farddoniaeth Hen ddawns (1993). Lluniodd ddwy astudiaeth ar farddoniaeth Bobi Jones yn y gyfres Llên y Llenor ac roedd yn cyfrannu’n gyson i gylchgrawn Barddas ac eraill. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o farddoniaeth Ffynhonau uchel yn 2012. Bu farw ar 14 Ionawr 2019.

Archivist's Note

Hydref 2020.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Additional Information

Published