Cyfieithiadau o waith Plato,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 NLW MS 16349C.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004437642
  • Dates of Creation
    • [1925x1933]-[?1938] /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • iii, 83 ff. (testun ar y rectos yn unig) ; 260 x 205 mm. a llai. Ffeil 'Loop-Cobra'; 'John Griffith, Bryndinas, Nantgwynant, Caernarvon' (inc ar y clawr blaen).
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cyfieithiadau i'r Gymraeg, mewn teipysgrif, [1925x1933], gan John Griffith, o dri dialog gan Plato, sef Amddiffyniad Socrates (ff. iii, 1-46), Crito (ff. 47-70) a phenodau LXV-LXVII o Phaedo (ff. 71-76). = Typescript translations into Welsh, [1925x1933], by John Griffith, of three dialogues by Plato, namely the Apology of Socrates (ff. iii, 1-46), Crito (ff. 47-70) and chapters LXV-LXVII of Phaedo (ff. 71-76).
Ceir yn y cyfieithiadau nifer fawr o gywiriadau a newidiadau yn llaw John Griffith. Cynhwysir hefyd ddrafft llawysgrif, [?1938], yn llaw T[homas] Hudson-Williams, o ran o'i erthygl 'Socrates a'i gyfoedion' (gw. Y Drysorfa, 108 (1938), 47-50, 95-99 (tt. 95-98)) (ff. 77-83). = The translations contain copious corrections and emendations in the hand of John Griffith. Also included is a manuscript draft, [?1938], in the hand of T[homas] Hudson-Williams, of part of his article 'Socrates a'i gyfoedion' (see Y Drysorfa, 108 (1938), 47-50, 95-99 (pp. 95-98)) (ff. 77-83).

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Mr Ll. Wyn Griffith, mab John Griffith; Berkhamsted; Rhodd (gydag NLW MS 16350D); Ionawr 1944

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Dywedir i Griffith gychwyn ei waith cyfieithu Plato ar ôl iddo ymddeol ym 1925 (gw. yr erthygl arno gan Ll. Wyn Griffith yn y Bywgraffiadur Cymreig).

Preferred citation: NLW MS 16349C.

Archivist's Note

Rhagfyr 2007 a Ionawr 2015.

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Am eraill o bapurau John Griffith gweler NLW, Dr Llewelyn Wyn Griffith Papers F1/1-5.

Additional Information

Published