Papurau Carneddog

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 CARNEDDOG
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844050
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1743-1947 (crynhowyd c.1880]-1947) /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 0.258 metrau ciwbig (9 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Carneddog a rhai a gasglwyd ganddo, 1743-1947, yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth ganddo ef ac eraill ar gyfer eu cyhoeddi, yn cynnwys colofn 'Manion o'r Mynydd'; torion papur newydd o'i waith ef ac eraill; gwaith gan awduron adnabyddus a gasglodd, yn eu mysg cerddi David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) a dyfyniadau cywyddwyr; ei nodiadau bywgraffiadol ar awduron; papurau personol a theuluol, yn cynnwys llythyrau a anfonwyd ganddo o Iwerddon, pan oedd yn gwella o salwch yn 1899; swm sylweddol o ddeunydd yn ymwneud â hanes Beddgelert a phlwyfi cyfagos, yn cynnwys llyfrau lloffion gyda nodiadau llawn, copi llawysgrif o hanes Beddgelert a nifer o deuluoedd lleol, a llyfr rent Carneddi, 1743-1832; a nifer fawr o lythyrau at Garneddog, llawer ohonynt yn ymwneud â'i golofn yn yr Herald, a hefyd yn cynnwys llythyrau gan awduron Cymreig a llythyrau o UDA ac Awstralia. = Papers, 1743-1947, of and collected by Carneddog, comprising prose and poetry by him and others towards publications including the 'Manion o'r Mynydd' column; newspaper cuttings of his own work and that of others; works by well-known authors collected by him, including poems of David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) and quotations from the cywyddwyr; biographical notes by him on authors; personal and family papers, including letters sent by him from Ireland, where he was recuperating from illness in 1899; a considerable amount of material relating to the history of Beddgelert and neighbouring parishes, including fully annotated scrapbooks, a manuscript history of Beddgelert and of several local families, and a rent book from Carneddi, 1743-1832; and a large number of letters to Carneddog, many of them relating to his column in the Herald, and also including letters of Welsh authors and letters from the USA and Australia.

Administrative / Biographical History

Ganwyd 'Carneddog', Richard Griffith (1861-1947), bardd, awdur rhyddiaith, newyddiadurwr, hanesydd lleol a ffermwr, ar fferm fach fynyddig Carneddi, Nantmor, ger Beddgelert, sir Gaernarfon, lle bu ei hynafiaid yn ffermio am sawl cenhedlaeth. Un o Nantmor, hefyd, oedd Catherine, ei wraig, a briododd yn 1899. Cymerodd ei enw barddol, 'Carneddog' o'r man lle'i ganed, a threuliodd Catherine ag ef bron gydol eu hoes yn ffermio defaid yno, cyn symud yn 1945 i fyw gyda'u mab Richard, yn Hinkley, swydd Gaerlŷr. Ymddiddorai Carneddog yn niwylliant Cymru o'i ddyddiau cynnar, yn enwedig yn llenyddiaeth, hanes a llên bro ei febyd yn Eryri, a chyfrannai yn rheolaidd i gyfnodolion megis Cymru a Bye-Gones, yn ogystal â chylchgronau, yn eu plith Baner ac Amserau Cymru a Y Genedl Gymreig, ac ysgrifennai golofn boblogaidd wythnosol, 'Manion o'r Mynydd' yn yr Herald Gymraeg, o 1881 ymlaen, am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal, bu'n ysgrifennu bywgraffiadau llenyddol, beirniadu mewn eisteddfodau, casglu llawysgrifau, ymchwilio i hanes lleol, cyhoeddi barddoniaeth (yn eu mysg rhai cerddi a gyfansoddodd ef ei hun), a gohebu ag ystod eang o bobl ar draws y byd, yn cynnwys awduron a beirdd, a rannai'r un diddordebau ag ef.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: torion papur newydd; papurau personol; barddoniaeth; cardiau a gwahoddiadau; gohebiaeth.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Richard Griffith (Carneddog); Rhodd; 1947
R. M. Griffith; Hinckley, swydd Caerlŷr; Rhodd; Ebrill 1957

Note

Ganwyd 'Carneddog', Richard Griffith (1861-1947), bardd, awdur rhyddiaith, newyddiadurwr, hanesydd lleol a ffermwr, ar fferm fach fynyddig Carneddi, Nantmor, ger Beddgelert, sir Gaernarfon, lle bu ei hynafiaid yn ffermio am sawl cenhedlaeth. Un o Nantmor, hefyd, oedd Catherine, ei wraig, a briododd yn 1899. Cymerodd ei enw barddol, 'Carneddog' o'r man lle'i ganed, a threuliodd Catherine ag ef bron gydol eu hoes yn ffermio defaid yno, cyn symud yn 1945 i fyw gyda'u mab Richard, yn Hinkley, swydd Gaerlŷr. Ymddiddorai Carneddog yn niwylliant Cymru o'i ddyddiau cynnar, yn enwedig yn llenyddiaeth, hanes a llên bro ei febyd yn Eryri, a chyfrannai yn rheolaidd i gyfnodolion megis Cymru a Bye-Gones, yn ogystal â chylchgronau, yn eu plith Baner ac Amserau Cymru a Y Genedl Gymreig, ac ysgrifennai golofn boblogaidd wythnosol, 'Manion o'r Mynydd' yn yr Herald Gymraeg, o 1881 ymlaen, am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal, bu'n ysgrifennu bywgraffiadau llenyddol, beirniadu mewn eisteddfodau, casglu llawysgrifau, ymchwilio i hanes lleol, cyhoeddi barddoniaeth (yn eu mysg rhai cerddi a gyfansoddodd ef ei hun), a gohebu ag ystod eang o bobl ar draws y byd, yn cynnwys awduron a beirdd, a rannai'r un diddordebau ag ef.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Archivist's Note

Ionawr 2003.

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir llawysgrifau eraill o ddiddordeb llenyddol a hanesyddol, 1745-1931, a gasglwyd gan Carneddog, yn NLW MSS 7234-53, 8404. Mae llawer iawn o ddeunydd yn ymwneud â Carneddog, yn enwedig gohebiaeth, ymysg papurau unigolion eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bibliography

E. Namora Williams, Carneddog a'i Deulu (Dinbych, 1985).

Additional Information

Published